Pont Diwbaidd Stephenson, Conwy

button-theme-history-for-all sign-out

British Sign Language logoPont Diwbaidd Stephenson, Conwy

Painting of tubular bridge construction
© Science Museum / Science & Society Picture Library

Mae’r traciau rheilffordd ger Castell Conwy yn ymddangos o ddau “diwb” dur sy’n ffurfio pont dros yr aber. Roedd hwn yn ddyluniad arloesol gan y peiriannydd enwog Robert Stephenson, gyda chymorth eraill yn cynnwys Isambard Kingdom Brunel a William Fairbairn.

Bu iddynt gyfrifo, er mwyn dal pwysau’r trên, y byddai’n rhaid gosod rhesi o diwbiau bychain ar hyd top a gwaelod y tiwbiau mawr. Golyga hyn fod yn bont yng Nghonwy yn gysylltiedig â’r holl bontydd "trawstiau bocs" sydd i'w gweld ar draws y byd.

Adeiladwyd y tiwbiau enfawr ar y lan, eu cludo i’w lle ar ysgraffau a’u codi i’r uchder cywir. Bu i Stephenson deithio ar y trên cyntaf i groesi’r bont ym mis Ebrill, 1848. Ychwanegwyd pierau cefnogi, un ar bob ochr i sianel yr afon ym 1899.

Photo of train at tubular bridge
© National Railway Museum /
Science & Society Picture Library

Mae trenau yn mynd i mewn i’r tiwbiau drwy byrth cerrig tal, a ddyluniwyd i gyd-fynd â’r castell. Gellir gweld lled llawn y tiwbiau orau o gyfeiriad y de, ger y lawnt fowlio oddi ar Ffordd Llanrwst. Mae’r bont bellach yn berchen i, ac yn cael ei chynnal gan, Network Rail.

Adeiladodd Stephenson dair pont arall yn dilyn yr un egwyddorion, yn cynnwys pont hir iawn yng Nghanada, ond Conwy yw’r unig bont diwbaidd sydd wedi goroesi.

Map

Gwefan y Science & Society Picture Library