Adeilad a fu'n eiddo i lawfeddyg, Abertawe
Adeilad a fu unwaith yn eiddo i lawfeddyg, 53-55 Wind Street, Abertawe
Mae’r teras o adeiladau sydd o boptu’r fynedfa i’r Salubrious Passage yn perthyn i’r flwyddyn 1803. Ar y llechen uwchben Wind Street Stores coffeir Thomas Williams, llawfeddyg.
Yn 1804 hysbysewyd ganddo ym mhapur y Cambrian ddau dŷ newydd, helaeth yn Wind Street gyferbyn â gwesty (Mackworth) lle y mae’r coetshis mawr o Lundain ac o Iwerddon yn cyrraedd ac yn ymadael yn feunyddiol. Roedd Swyddfa Bost, llyfrgelloedd cyhoeddus a marchnad gerllaw. Ac o ffenestri cefn y tai ceid golygfa ddymunol o’r môr a oedd lai na dau gan llath i ffwrdd.
Yn 1808 adfywiwyd Margaret Thomas, 15 oed, o Gwmbwrla gan Thomas Williams; roedd ei chorff wedi ei dynnu o’r dŵr ger ceg afon Tawe. Roedd hi a’i ffrind, Catherine David, wedi ceisio byrddio’r fferi i Abertawe a groesai’r afon gerllaw’r man lle y mae archfarchnad Sainsbury heddiw. Llithrodd y ddwy o’r gangwe a’u cipio gan y llif. Cafwyd hyd i gorff Catherine drannoeth.
Bu farw Mr Williams ym mis Ionawr 1813 a’i weddw Sarah ddeufis yn ddiweddarach. Rhoddwyd y tŷ yn Wind Street ar osod. Roedd dwy seler yno “fitted up with bins”, dau barlwr ar y llawr isaf, ac wyth ystafell wely. Y tu ôl i’r tŷ roedd gardd, stabl a hafdy. Gwerthwyd y dodrefn ar ocsiwn gan gynnwys pedwar gwely “post and tent”.
Yn1827 agorwyd cangen o’r London Genuine Tea Company yn 54 Wind Street i werthu te pur, “unadulterated teas”, chwedl hwythau. Yn y 1830au roedd hetwraig o’r enw Mrs Evans yn gwerthu, glanhau ac altro hetiau ar y safle. Erbyn 1854 roedd cyfrwywr a gwneuthurwr harnais wrthi yn rhif 55. Roedd gwerthwr pysgod yn masnachu yn rhif 54 a Mary Mason, cacenwraig a phasteiwraig yn rhif 53. Yn 1926 roedd dau werthwr baco, gwerthwr papur, gwerthwr pysgod, brocerwr stoc a’r Royal Exchange Assurance Co yn yr adeilad.
View Surgeon's former premises HistoryPoints.org in a larger map