Gwesty'r Celtic Royal, Caernarfon

Gwesty'r Celtic Royal, Stryd Bangor, Caernarfon

caernarfon_royal_hotel_postcard

Mae rhan hynaf yr adeilad hwn yn dyddio o tua.1794, pan gafodd ei godi gan 2il Iarll Uxbridge. Fe'i gelwid yn Westy Uxbridge Arms ac roedd yn cynnwys y colofnau Dorig trawiadol a welwn heddiw. Gwnaethpwyd yr iarll yn Ardalydd 1af Ynys Môn ar ôl ei arweinyddiaeth lwyddiannus ym Mrwydr Waterloo ym 1815, pan gafodd un o'i goesau ei daro. Yn ôl y chwedl, dywedodd wrth Ddug Wellington: “By God Sir, I’ve lost my leg” ac atebodd y Dug: “By God Sir, so you have”. Cafodd y goes ei thorri yn ddiweddarach.

Daeth yr adeilad yn Westy'r Brenhinol ar ôl i'r Dywysoges Victoria â'i mam ymweld yn 1832, bum mlynedd cyn iddi ddod yn frenhines. Erbyn hynny roedd y stablau a'r coetsys wedi'u hymestyn i ffurfio cwrt caeedig y tu ôl i'r gwesty. Roedd gan y gwesy ei efail a ffarier ei hun, a llety ar gyfer gweison. Gallai gwesteion fynd am dro yng ngerddi preifat y gwesty, a oedd yn ymestyn i droed craig Twthill (y bryn y tu hwnt i'r gwesty).

caernarfon_royal_hotel

Gwnaed y bwa metel o flaen y gwesty yn yr 20fed ganrif gan DJ Williams. Gwnaeth hefyd y lampau addurniadol wrth ymyl mynedfeydd y dreif. Yn gynharach roedd wedi creu’r ffitiadau ar gyfer arch y Rhyfelwr Anhysbys yn Abaty Westminster, fel y gallwch ddarllen ar ein tudalen am waith haearn Brunswick.

Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, arhosodd yr arloeswr diwifr Guglielmo Marconi lawer gwaith yma wrth oruchwylio adeiladu gorsaf drosglwyddo tonnau hir gyntaf Prydain ar ochr bryn ger Waunfawr (i'r de o Gaernarfon). Ymdriniodd yr orsaf â llawer o draffig radio rhyngwladol Prydain trwy'r rhyfel a bu’n agored tan 1938.

Fe adfeiliodd y gwesty yn yr 1980au ond fe’i prynwyd gan gwmni gwestai Gwyddelig, a adnewyddodd y strwythur hanesyddol, ychwanegu adrannau newydd mewn arddull gadwriaethol ac ailagor y gwesty ym 1997. Fe roddodd yr enw Celtic Royal ar y gwesty, i adlewyrchu y cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae'r gwesty bellach yn eiddo annibynnol.

Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad

Cod post: LL55 1AY    Map

Gwefan Gwesty'r Celtic Royal