Cymraeg The Heath, Llanfairfechan
Yr Heath, Llanfairfechan
Agorwyd Cartref Ymadfer Goffa Yr Heath ym 1897. Cafodd ei enwi ar ôl y diwydiannwr Robert Heath, meistr haearn a glo a ddaeth yn un o gynhyrchwyr mwyaf y byd o fariau haearn. Bu farw ym 1893 cyn iddo gyflawni ei uchelgais i agor cartref ymadfer yng Ngogledd Cymru i’r dynion a weithiau yng ngogledd Swydd Stafford.
Parhaodd ei ddau fab y busnes a gwario tua £20,000 ar brynu’r tir ac ar adeiladu ac addurno'r cartref ysblennydd.
Ym 1940 hawliwyd yr adeilad fel ysbyty ategol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Meddygol Brys. Roedd yn angenrheidiol oherwydd yr oedd gwelyau yn ysbytai Caernarfon a Bangor yn cael eu neilltuo ar gyfer anafiadau a achoswyd gan ymosodiadau awyrenau’r gelyn ar ddinasoedd Lloegr. Roedd ysbytai’r dinasoedd wedi eu difrodi.
Ar ôl y rhyfel dychwelodd Yr Heath i fod yn gartref ymadfer. Lleihaodd y niferoedd yn y cartref yn y 1960au, ac erbyn diwedd y degawd hwnnw roedd wedi cau. Yn ystod y 1970au defnyddiwyd rhai o'r ystafelloedd gan Glwb Cymdeithasol Llanfairfechan ond roedd Yr Heath yn adeilad rhy ddrud i'w gynnal, a caewyd ei drysau yn y 1980au.
Bu’r adeilad yn wag am bron i 20 mlynedd cyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei agor fel swyddfeydd ar gyfer yr Adran Briffyrdd ym 1997.
Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno
Côd Post: LL33 0PF Map
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |