Cyn gartref y cyfieithydd Thomas Hudson-Williams, Caernarfon

slate-plaque

Cyn gartref y cyfieithydd Thomas Hudson-Williams, Caernarfon

Bu Thomas Hudson-Williams (1873-1961) yn byw yma o 1873 hyd 1905. Yr oedd yn ieithydd ac yn gyfieithydd toreithiog o lenyddiaeth Ewropeaidd i'r Gymraeg.

Cadwai ei dad siop ddillad ar y Maes (Sgwâr y Castell) ond bu farw yn fuan ar ôl ei eni. Yna symudodd ei fam Margaret gyda'i mab bach i fyw yma, 25 Wellington Terrace. Hwn oedd cartref ei mam weddw, Jane Hudson. Ym 1905 priododd Thomas â Gwladys Williams o Fangor. Cynyrchodd y briodas dri o blant.

Ar ôl gadael Ysgol Friars, Bangor, astudiodd Thomas y Clasuron, Ffrangeg ac Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yna astudiodd Ieithoedd Celtaidd ac Ieithyddiaeth Gymharol yn yr Almaen gyda'r ysgolhaig enwog Heinrich Zimmer, a ddaeth yma i Gaernarfon yn ddiweddarach i astudio tafodieithau lleol. Ym 1904 penodwyd Thomas yn Athro Groeg ym Mangor, swydd a ddaliodd hyd ei ymddeoliad yn 1940.

Picture of cover of book translated by T Hudson-Williams

Iddo ef, Caernarfon oedd y lle gorau, a'i thafodiaith yr iaith orau, yn y byd. Cynhwysai Atgofion o Gaernarfon (1950), ei lyfr atgofion am y dref a'i chymeriadau, restr helaeth o eiriau tafodieithol lleol. Ynddi hefyd cyfeiriodd at waith yr hanesydd lleol John Wynne, a oedd yn byw yma yn gynharach.

Ar hyd ei oes, bu Thomas yn hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg lafar wrth gyfieithu o ieithoedd Ewropeaidd eraill. Roedd hyn yn her uniongyrchol i'r rhai a oedd yn dadlau dros iaith lenyddol safonol, ac yn fater o ddadl fywiog. Dechreuodd ddysgu Rwsieg yn 1931, ac o hynny hyd ei farwolaeth cyfieithodd weithiau'r meistri Rwsiaidd i Gymraeg llafar. Mae'r llun yn dangos clawr ei gyfieithiad o Fathers & Sons Turgenev.

Ymhlith ei gyfieithiadau niferus eraill mae rhyddiaith, barddoniaeth a drama o Hen Berseg, Groeg, Pwyleg, Ffrangeg, Gwyddeleg a Tsieceg. “Iddo ef, gweithred wladgarol oedd cyfieithu, gan roi cyfle i siaradwyr Cymraeg brodorol fwynhau llenyddiaeth dramor heb droi at gyfieithiadau Saesneg,” meddai Dr Sam Jones, awdurdod ar Thomas Hudson-Williams.

Gyda diolch i Averill Lukic, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon, ac i Rhiannon James am y cyfieithiad

Cod post: LL55 2HH    Map

Tour button for Caernarfon words and music tour Navigation previous buttonNavigation next button