Melin Tregwynt, St Nicholas, ger Abergwaun
Melin Tregwynt, St Nicholas, ger Abergwaun
Mae hanes bod y felin wedi bod yn gweithio er y ddeunawfed ganrif. Yn wreiddiol roedd yn eiddo i Harrisiaid, Plas Tregwynt, perchnogion tiroedd lawer yn yr ardal.
Mae’r rhod ddŵr o gyfnod Fictoria yn dal yn ei lle yn un o’r adeiladau a’r flwyddyn 1819 wedi ei nodi ar un o’r trawstiau. Dyffryn Mill oedd yr enw bryd hynny a byddai’n malu ŷd cyn cael ei throi’n felin ban. Mae pannu yn tewhau trwch a gweadedd defnyddiau gwlân. Yn y felin ban ceir morthwylion mecanyddol i ffustio’r brethyn.
Yn y felin roedd peiriannau ar gyfer troelli, ystofi a gweu gwlân i gynhyrchu blancedi ac amrywiol decstiliau i wneud dillad. Yn ystod y degawdau cynnar roedd yn darparu ar gyfer pobl leol yn bennaf, gan gynnwys ffermwyr a oedd am flancedi o wlân eu defaid nhw eu hunain.
Prynwyd y felin am £760 yn 1912 gan Henry Griffiths o’r Efail-wen wedi i’w gefnder ei ddysgu i wehyddu. Newidiodd ef a’i wraig Esther yr enw i Melin Tregwynt. Yn sgil marwolaeth gynnar Esther, ymadawodd y mab ifancaf, Howard, â’r ysgol i weithio yn y felin ac yntau’n bedair ar ddeg oed. Mae’r llun uchod yn dangos Henry a Howard wrth eu gwaith. Gellir gweld olwyn ystofi’r felin yng nghanol y llun.
Yn ddiweddarach Howard oedd yn gyfrifol am y felin gyda chymorth ei wraig Eluned. Eu mab nhw, Eifion, ynghyd â’i wraig Amanda, a gydiodd yn yr awenau yn 1986. A’u hymddeoliad hwythau ar y gorwel, gwnaed penderfyniad i beidio â gwerthu’r busnes gan eu bod yn ofni y gallai perchen newydd gau’r felin yn y pen draw a defnyddio’r eiddo i ddibenion eraill. Yr hyn a wnaed oedd trosglwyddo perchnogaeth y fusnes i staff y felin yn 2022.
Mae’r felin yn dal i gynhyrchu dillad arbennig, blancedi ac ategion. Ysbrydolwyd un o’r brethynnau gan groes Dewi Sant. Galwyd un arall (gweler y llun isaf) yn Jemima ar ôl y wraig leol a gynorthwyodd i wrthsefyll y cyrch olaf ar Brydain yn 1797, fel y nodir ar ein tudalen am dapestri y Goresgyniad Olaf.
Am yr enw lle Tregwynt:
Yr elfennau tebygol yw tref ‘fferm’ a gwynt ‘awel gref’. Enw addas ar le ar dir uchel.
Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad a’r nodyn am yr enw lle
Cod post: SA62 5UX Map lleoliad