Ffynnon Fictoraidd, Caernarfon
Gosodwyd y ffynnon hon yn Y Maes yn 1868 fel rhan o gynllun mawr i wella cyflenwad dŵr a glanweithdra Caernarfon, ar ôl achos o golera yn ystod gaeaf 1866-67 a laddodd o leiaf 70 o bobl. Roedd basn llydan o amgylch y ffynnon, fel y gwelir yn y llun.
Ar adeg yr achosion, roedd dŵr yfed y dref yn dod o afon Cadnant. Roedd cwmnïau dŵr yn ei bwmpio i fyny i'r strydoedd, ond roedd llawer o dai heb gyflenwad. Ni hidlwyd yr afon a chafodd ei llygru gan ddraeniad o dir fferm a phentref Bethel. Toiledau a draeniau yn cael eu gwagio i ran isaf yr afon. “Yn yr haf a’r tywydd sych, mae’n dod yn ffos ddrewllyd,” ysgrifennodd Dr Seaton, arbenigwr a anfonwyd gan swyddfa’r Cyfrin Gyngor i adrodd ar yr achosion o golera.
Beirniadodd y cyflenwad dŵr a’r draeniad i’r tai, ac absenoldeb toiledau yn nifer o dai gorlawn y dref. Yn gyffredinol, roedd ffenestri’r tai ar un ochr yn unig, gan atal awyru priodol.
Perswadiodd maer y dref Syr Llewelyn Turner y cyngor i fenthyg £10,000 ar gyfer adeiladu system ddŵr newydd, a agorwyd gan Dywysog Cymru ym mis Ebrill 1868 drwy droi'r ffynnon ymlaen. Cododd jet o ddŵr tua 30 metr o’r ffynnon, gan gynyddu i bron i 40 metr pan agorodd y prif beiriannydd RJ Davids y falf yn llawn, ar gais y tywysog. Ciliodd y dyrfa ar frys o'r rhwystrau lle disgynnodd y chwistrell!
Ym mis Tachwedd 1868 daeth y ffynnon newydd yn ganon dŵr dros dro ar ddiwrnod yr etholiad cyffredinol cyntaf ers i nifer y dynion oedd â hawl i bleidleisio ddyblu, gyda deiliaid tai cyffredin a thenantiaid fferm yn gynwysedig. Nid pleidlais gudd oedd hi, a rhybuddiwyd chwarelwyr Sir Gaernarfon y gallent golli eu swyddi fel cosb am bleidleisio dros y Rhyddfrydwyr! Bu gan y sir heddlu ychwanegol a mwy na 1,000 o gwnstabliaid gwirfoddol wrth law ar gyfer diwrnod y bleidlais, ond ni allent dawelu ffrwgwd torfol yn Y Maes – nes i jet y ffynnon gael ei chyfeirio at y dorf.
Cynlluniwyd y system ddŵr i gyflenwi 160 litr (35 galwyn) bob dydd i 20,000 o bobl – dwbl poblogaeth y dref ar y pryd. Roedd hwn yn lwfans hael hyd yn oed yn ôl safonau modern. Yn 2013, defnyddiodd cwsmeriaid Dŵr Cymru 145 litr y person y dydd ar gyfartaledd!
Mae'r ffynnon bellach ym mhen draw Stryd Llyn. Ychydig i’r gogledd (lle saif y maes parcio aml-lawr heddiw) roedd Pwll y Brenin, pwll melin a ffurfiwyd gan argau’r Cadnant pan adeiladwyd y castell a’r dref gaerog yn y 13eg ganrif. Goroesodd y pwll tan y 19eg ganrif. Mae'r afon bellach yn cael ei sianelu o dan y strydoedd.
Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad
Cod post: LL55 2AE Map