Y Maes, Caernarfon
Mae'r man agored hwn, a elwir yn lleol fel YMaes, wedi bod yn ganolbwynt i Gaernarfon ers yn fuan ar ôl adeiladu'r castell canoloesol a waliau'r dref. Bryd hynny roedd yma fryncyn o'r enw Y Maes Glas neu The Green, a ddefnyddid ar gyfer gweithgareddau hamdden gan gynnwys ymladd tarw.

Darlun o'r Maes a'r Castell c.1840
Royal Collection Trust / © Her Majesty Queen Elizabeth II 2021
Fe'i trawsnewidiwyd yn gynnar yn y 19eg ganrif pan adeiladwyd y cei llechi gerllaw. Codwyd wal gynnal fawr ar hyd yr ymyl ddeheuol, gan alluogi lefelu Y Maes i ffurfio sgwâr lle cynhelid ffeiriau a marchnadoedd.
Yn yr 20fed ganrif roedd hefyd yn gweithredu fel gorsaf fysiau, fel y dangosir yn llun 1970, o Gasgliad y Swyddfa Gwybodaeth Ganolig Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (a ddangosir yma trwy garedigrwydd y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Mae'r llun hefyd yn dangos cerflun y Prif Weinidog Lloyd George a'r ffynnon, y ddau bellach mewn gwahanol leoliadau gerllaw.
Yn yr 20fed ganrif roedd hefyd yn gweithredu fel gorsaf fysiau, fel y dangosir yn llun 1970, o Gasgliad y Swyddfa Gwybodaeth Ganolig Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (a ddangosir yma trwy garedigrwydd y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Mae'r llun hefyd yn dangos cerflun y Prif Weinidog Lloyd George a'r ffynnon, y ddau bellach mewn gwahanol leoliadau gerllaw.
Gan ddechrau yn y castell a mynd yn wrthglocwedd o amgylch y Maes, mae gwrthrychau o ddiddordeb gan gynnwys (cliciwch ar eiriau wedi'u tanlinellu am fanylion):
- Cerflun Lloyd George.
- Syr Hugh Owen - Hugh (1804-1881) o Langeinwen, Ynys Môn, ac roedd yn awdurdod ym myd gwelliannau addysgol Cymru, gan gynnwys Cymdeithas Ysgoloriaeth Gogledd Cymru a Phrifysgol Cymru.
- Gwesty'r Castell - adeilad Sioraidd hwyr, sydd yn nodwedd ganolog yn y rhes yma o’r Maes. Adeiladwyd pedwar tŷ i’r dde ond dim ond un i’r chwith, lle cafodd y bwlch ei lenwi gan swyddfa papur newydd a ddrylliwyd gan dân ym 1984. Adeiladwyd y tri tŷ “ar goll” ar ôl hynny, gan gwblhau’r rhes yn gymesur.
- Cyn warws tollau gan Morgan Lloyd - dim ond y pedwerydd llawr sy'n weladwy ar y lefel hon.
- Swyddfa'r Post a phlac coffa i'r arloeswr telegraff a diwifr Syr William Preece.
- Cofeb rhyfel.
- Tafarn Morgan Lloyd - roedd yn allfa gyfanwerthu i Morgan Lloyd, a ddosbarthai winoedd a gwirodydd ar draws rhan helaeth o Ogledd Cymru am 50 mlynedd. Roedd yn warden yn Eglwysn Llanbeblig, lle cafodd ei gladdu yn 1894.
Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad, ac i Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol am yr hen lun
Postcode: LL55 2NF Map
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk