Cyn Warws Tollau, Caernarfon

slate-plaque

Cyn Warws Tollau, Caernarfon

Yn wreiddiol roedd yr adeilad tal hwn yn warws tollau, lle roedd gwinoedd a gwirodydd wedi ei  mewnforio yn cael eu storio ar ôl cyrraedd mewn llong. Ni thalwyd tollau arnynt nes i'r diodydd gael eu dosbarthu o'r warws. Roedd o leiaf ddwy warws bond arall gerllaw, ond hon oedd y fwyaf. 

Arferai’r tir yma ddisgyn yn raddol o’r Maes (Sgwâr y Castell) at lan yr afon tan y cliriwyd y tir i adeiladu  Cei Llechi yn 1817. Roedd y warws tollau, a adeiladwyd o bosibl yn gynnar yn y 1850au, yn wynebu'r Cei yr ochr hon. Edrychwch i fyny i weld y drysau lle roedd mewnforion yn mynd i mewn i'r lloriau uchaf. Roedd y pâr o wregysau taflunio ar y brig yn dal pwli gyda rhaff yn pasio drosto, ar gyfer codi nwyddau. 

Agorai y pedwerydd llawr i’r Maes yr ochr arall i'r adeilad. Dyma oedd y fynedfa i ymwelwyr ar gyfer busnes.

Defnyddiwyd y warws gan Morgan Lloyd & Son, a oedd hefyd â siop gyfanwerthu yn 10 Sgwâr y Castell – tafarn Morgan Lloyd bellach. Bu Morgan Lloyd, cyn-ddisgybl yn Ysgol Ystrad Meurig yng Ngheredigion, yn rhedeg y busnes am fwy na 50 mlynedd, gan ddosbarthu gwinoedd a gwirodydd ar draws ardal eang o Ogledd Cymru hyd yn oed cyn i Caernarfon ymuno â'r rhwydwaith reilffyrdd. Roedd yn gynghorydd tref, yn aelod o ymddiriedolaeth yr harbwr ac yn warden yn Eglwys Sant Peblig, lle gosododd ef a’i blant ffenestr goffa i’w wraig. Bu farw ym 1894, yn 78 oed.

Parhaodd ei ddisgynyddion y busnes cyfanwerthol am ddegawdau, gydag “ystafelloedd blasu” yn 10 Sgwâr y Castell.

Mae adeilad y warws wedi cael sawl defnydd yn yr 20fed a'r 21ain ganrif. Meddiannwyd y lloriau uchaf o 1928 gan y cwmni dodrefn Jays. Yn ddiweddarach, ail-fodelwyd y ffryntiad a oedd yn wynebu Y Maes gyda ffenestri gwydr plât ar gyfer siop ddodrefn Cavendish Woodhouse, sy'n eiddo i Great Universal Stores. Mae llawer o drigolion lleol yn ei gofio fel clwb nos Paradocs gyda mynedfa ar Y Maes. Yn ddiweddarach, gelwid y clwb yn Cofi Roc (‘Cofi’ yw’r enw ar bobl o Gaernarfon). Yn 2016 daeth rhan uchaf yr adeilad yn fwyty a bar COPA.

Gyda diolch i Clive James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 2NA    Map

Gwefan COPA

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button