Eglwys ac adeilad ysgol, Ystrad Meurig

Mae crefydd ac addysg wedi ymblethu drwy hanes y safle hon, lle y saif eglwys St Ioan wrth ymyl adeilad a fu ar un adeg yn Ysgol Ramadeg Edward Richard.

Mae ffurf gron y fynwent yn awgrymu gwreiddiau Celtaidd. Yn 1198 cadarnhaodd Esgob Tyddewi i’r eglwys a fu’n sefyll yma gael ei rhoi i’r Ysbytywyr. Mae’n debygol mai’r Iarll Roger de Clare a fu’n gyfrifol am hynny wedi iddo goncro Ceredigion yn 1158. Cadarnhaodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd mai’r Ysbytywyr oedd perchen yr eglwys wedi iddo adennill yr ardal yn 1164, gan brofi bod y Cymry a’r Eingl-Normaniaid ill dau yn cefnogi gwaith yr Ysbytywyr. 

Portrait of schoomaster John Williams in 1818Mae Marchogion Urdd Sant Ioan o Jerusalem yn enw arall ar yr Ysbytywyr a hynny’n esbonio, yn fwy na thebyg, pam y cysegrwyd yr eglwys i Ioan Fedyddiwr. Erbyn 1338 roedd yr Ysbytywyr wedi gosod eu heiddo yn yr ardal ar brydles i reolwr, yn hytrach na gofalu am eu heiddo o’u comandwr yn Slebech, Sir Benfro. 

Yn y ddeunawfed ganrif sefydlwyd ysgol ramadeg yn yr eglwys gan Edward Richard, bardd ac academwr o Ystrad Meurig. Yn yr eglwys hefyd roedd ei lyfrau yn cael eu cadw, 700 ohonyn nhw, gan gynnwys argraffiad cyntaf o eiriadur arloesol Samuel Johnson.

Wedi marwolaeth Edward yn 1777, John Williams, cyn-ddisgybl, oedd yr ysgolfeistr. Rhwng 1812 a 1815 cododd John arian er mwyn darparu adeilad pwrpasol ar gyfer yr ysgol. Câi John ei alw ‘Yr Hen Syr’. Mae’r portread, gyda diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ei ddangos yn 1818 yn 73 oed.

Gan ddilyn traddodiad lleol, yr ysgolfeistr oedd y ficer yn ogystal. Dirywiodd cyflwr yr adeiladau yn ystod oes Fictoria ond pennwyd yr ysgol yn ysgol safon uwch yn 1881 ac adnewyddu’r adeilad.

Ynghynt yn y ganrif honno cafodd yr eglwys ei hisraddio’n gapel ym mhlwyf Ysbyty Ystwyth. Dymchwelwyd yr hen eglwys a chodi’r adeilad presennol ar yr un seiliau yn y 1890au a daeth yn eglwys y plwyf.

Cafodd Morgan Lloyd, un a gyn-ddisgyblion yr ysgol, yrfa yn cyflenwi gwinoedd a gwirodydd ar draws ardal eang o Ogledd Cymru am fwy na 50 mlynedd. Roedd ganddo warws tollau pedwar llawr yng Nghaernarfon ac allanfa cyfanwerthu yn yr adeilad sydd bellach yn dafarn sy’n dwyn ei enw ef.

Mae adeilad yr ysgol yn dal yn eiddo i’r eglwys; bellach mae’n ganolfan gymdeithasol. Dilynwch y ddolen isod am ragor o fanylion. 

Diolch i’r Athro Helen Nicholson o Brifysgol Caerdydd am wybodaeth am yr Ysbytywyr, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SY25 6AA     Map

Gwefan y plwyf

Gwefan Canolfan Edward Richard