Llethr darganfyddiad daearegol ger Brynrefail
Llethr darganfyddiad daearegol ger Brynrefail
Os rydych newydd sganio y còd QR ger Lôn Las Peris, yna edrychwch ar draws y llyn ar y llethrau coediog gyferbyn. Coeliwch neu beidio fe fu’r llethr yma yn sylfaenol bwysig i’n dealltwriaeth o sut y ffurfiwyd daear ein byd. Ond hefyd fe gychwynnodd ddadl danbaid rhwng dau ddaearegwr blaengar.
Roedd Adam Sedgwick (1785-1873) a Roderick Impey Murchison (1792-1871) yn bartneriaid daearegol glos. Ymchwiliodd y ddwy ddaeareg yr Alban gyda’i gilydd yn y 1820au.
Yn gynnar yn y ddegawd ganlynol astudiodd Murchison ffosiliau yn Ne-ddwyrain Cymru ac adrannau cyfagos o Loegr. Diffiniodd y cyfnod fel y Silurian ar ôl llwyth Cymreig a’i hadnabuwyd gan y Rhufeiniaid yn ne Cymru.
Ymhellach gwnaeth Sedgwick astudiaethau tebyg yn Eryri. Roedd llethrau Fachwen fel eu gwelwch dros y dŵr o ddiddordeb arbennig iddo. Dangosant sut y gosodwyd creigiau gwaddodol dros amser. Cafodd ei wybodaeth o drawstoriadau’r tir ar gyfer rheilffordd y chwarel a’r chwarel ei hun (Chwarel Dinorwig). Enwodd Sewick amser daearegol fel y Cambrian, yr enw Rhufeinig am Gymru.
Bu i’r ddau ffrind gyflawni papur gwyddonol yn 1835 gan amlinellu sut roedd y Cambrian a’r Silwrian yn wahanol mewn hanes.
Yna anghytunodd y ddau ar ffin rhwng y ddau gyfnod. Penderfynodd Murchison mai cyfnod cynnar o’r Silurian oedd y Cambrian. Ni chanfyddwyf ffosiliau yn hyn na’r Cambria.
Efallai fod y ddau am enwogrwydd o ganfod creigiau cyntaf y ddaear - ond wnaeth o nhw ddim! Fu fawr o iaith rhwng y ddau am flynyddoedd.
Ddatryswyd y ddadl ar ôl i’r ddau farw pan roddwyd deffiniad i’r cyfnod Ordofician - ar ôl y Cambrian a chyn y Silurian. Llwyth cyn-Rhufeinig yn ne Cymru oedd y Ordoficaid.
Wrth weithio yng ngogledd Cymru roedd gan Sedwick fyfyriwr ifanc yn ei garfan o’r enw Charles Darwin. Bu ei addysg gyda Sedwick yn sail i’w ddamcaniaeth gref o esblygiad Rhaid cofio fod Alfred Russel Wallace hefyd wedi dod a’r un ddamcaniaeth ymlaen, bron ar yr un pryd.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
![]() |
![]() ![]() |
Troednodiadau: Pa mor hen yw bryniau Gymru?
Cyfnod y Cambrian: 542 i 488 miliwn mlwydd yn ôl
Cyfnod Ordofisian: 488 i 444 miliwn mlwydd yn ôl
Cyfnod Silurian: 444 i 416 miliwn mlwydd yn ôl