Golygfeydd o Amroth

acc-logoRoedd yr olygfa oddi yma yn ystod oes Fictoria yn cynnwys tai byw, tai masnach,  gweithfeydd, gerddi a rhandiroedd. Erbyn hyn mae’r cyfan wedi’u colli i’r môr.

Yn y man lle y mae’r traeth caregog a cherflun Bertie, safai Beach Cottages – rhes o dai o’r 1880au cyn i stormydd eu dinistrio yn y 1930au. Y tu draw iddyn nhw yn ardal Templebar, roedd sawl garej (ger y cyfleusterau cyhoeddus heddiw) a thŷ cwch ar un adeg.

Enw gwreiddiol y tai sydd ar hyd y ffordd i’r Amroth Arms oedd Croggan’s Cliff. Adeiladwyd y tai hyn yn y 1860au tua’r un adeg â chapel Ebenezer. Collwyd y gerddi oedd yn wynebu’r môr yn ystod stormydd y 1890au.

Enw’r sgwar o dir sy’n estyn o’r heol gyferbyn â Beach Haven yw y Bandstand. Roedd to arno ar un adeg. Ffurfiwyd band bychan yn y pentref yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond byrhoedlog fu hwnnw. Y rheswm am hyn, o bosibl, oedd bod y cerddorion yn ymgynnull yn nhafarn y Temple Bar! 

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiai Mr Spry, morwr naill-fraich wedi ymddeol, delesgop i gadw golwg o’r Bandstand ar longau tanfor o’r Almaen. Codwyd y Bandstand uwchben stablau. Aed atyn nhw o ‘r traeth. Dyma stablau’r ceffylau a weithiai'r ‘patches’ (sef y mwnau brig). Anodd dychmygu hynny heddiw a phen uchaf y traeth bron cyfuwch â’r Bandstand. 

O edrych i’r cyfeiriad arall fe welwch yr heol yn dringo ac yn gwyro tua’r mewndir – dyma’r cynllun a fabwysiadwyd yn y 1930au i gymryd lle’r ffordd wreiddiol a oedd yn dilyn y morglawdd. Difrodwyd hwnnw gan stormydd yn 1931. Collodd Amroth dŷ arall yn eu sgil gan i dŷ gael ei chwalu i hwyluso adeiladu’r heol newydd. 

Mae grwynau ar hyd y traeth a osodwyd yno yn y 1950au yn amddiffynfa rhag y môr. Cledrau a godwyd o Reilffordd Maenclochog yn 1952 oedd rhai o’r pyst sy’n  atgyfnerthu’r grwynau. Arianwyd y gwaith yn rhannol gan y Llywodraeth am fod Ymarfer Jantzen (i baratoi ar gyfer glaniad D-Day) wedi gwanhau’r amddiffynfeydd hynaf ac achosi erydu cyflymach.

Diolch i Mark Harvey

Cod post: SA67 8NG    Gweld map y lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button