Neuadd y Dref y Trallwng

PWMP logoNeuadd y Dref y Trallwng

Mae adeilad dinesig wedi sefyll yma ers canrifoedd lawer. Adeiladwyd Neuadd bresennol y Dref yn y 1870au. Roedd Neuadd y Dref yma yn y 1620au ac yn gynharach o bosibl. Bu’n gartref i nifer o farchnadoedd o ganol y 18fed ganrif ymlaen.

Yn 1795 dechreuwyd gwneud gwaith ar Neuadd y Dref a gartrefai’r marchnadoedd a hefyd ystafell lys ar gyfer y Llys Aseis (tebyg i Lysoedd y Goron heddiw). Ym mis Gorffennaf 1839 fe wnaeth y Llys Aseis yma ddedfrydu 30 o ddynion a thair menyw i garchar neu i’w halltudio i Awstralia am gymryd rhan mewn terfysg pum niwrnod gan y Siartwyr yn Llanidloes. Cewch ddarllen rhagor am y Siartwyr ar ein tudalen am y brotest angheuol yng Nghasnewydd yn ddiweddarach yn 1839.

Aerial photo of Welshpool town hall in 1947
Neuadd y Dref y Trallwng yn 1947,
trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Roedd Neuadd y Dref Fictoraidd yn atgynhyrchu’r cyfleusterau cynharach ar raddfa fwy. Mae’n debygol ei bod yn cynnwys rhannau o’r adeilad oedd yn ei rhagflaenu. Mae llawer o’r nodweddion gwreiddiol wedi goroesi, gan gynnwys y doc yn yr hen ystafell lys a’r teils Minton yn y cyntedd. Mae’r Neuadd yn dominyddu’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a dynnwyd yn 1947. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Daethpwyd o hyd i ddau ddarn arian Rhufeinig pan osodwyd carthffos yn Neuadd y Dref yn 1911.

Ymysg y digwyddiadau yma yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd arwerthiant yn 1916 a gododd £92 i’r Groes Goch. Cafwyd llu o gyfraniadau gan gynnwys dofednod, mêl, gwenith, ceirch, ffrwythau, tri mochyn bach mewn hamper a mul o’r enw Love!

Ym mis Mawrth 1918 cynhaliwyd cyfarfod yma i annog y menywod lleol i gynhyrchu mwy o fwyd. Esboniodd y trefnydd amaethyddol Mary Silyn Roberts fod yn rhaid i’r gerddi a’r ffermydd gynhyrchu bwyd yn lle’r bwyd yr arferid ei fewnforio, a dywedodd y byddai “gorsaf biclo” yn yr haf yn atal ffrwythau a llysiau dros ben rhag mynd yn wastraff. Ar ôl y rhyfel bu’n ymgyrchydd arweiniol dros heddwch, fel y gallwch ddarllen ar ein tudalen am ei chartref ger Blaenau Ffestiniog.

Mae un o waliau allanol Neuadd y Dref yn coffau William Waring, a fu farw yn 1918 ac a gafodd Groes Fictoria am ei ddewrder.

Yn awr, mae’r neuadd yn eiddo i Gyngor Tref y Trallwng, a chynhelir yno lu o gyfarfodydd, digwyddiadau cymunedol a phriodasau.

Cod post: SY21 7JQ    Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk 

I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, trowch i’r dde i Broad Street. Ewch ymlaen ar hyd y Stryd Fawr. Y lleoliad nesaf yw’r adeilad ffrâm bren ar y dde wrth y safle bws
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button