Yr hen Mermaid Inn, y Trallwng

PWMP logoYr hen Mermaid Inn, y Trallwng

Credir bod yr adeilad ffrâm bren hwn yn dyddio’n ôl i’r 16eg ganrif. Mae’n hawdd ei ddychmygu â’i do gwellt gwreiddiol! Roedd yn dal yn dafarn yn yr 21ain ganrif a daeth yn eiddo preifat yn 2012.

Cafodd yr adeilad, a alwyd unwaith yn Black Boy Inn, ei adnewyddu’n ofalus gan y pensaer o Amwythig, Frank Shayler yn y 1890au. Daeth â’r pren i’r golwg ar flaen yr adeilad, gan ychwanegu rhai darnau o bren addurniadol ei hun.

Yn y 1880au ac yn ddiweddarach, bu’r Mermaid Inn yng ngofal Harry a Jane Rudge. Roedd yn adnabyddus fel joci a thorrodd ei goes wrth farchogaeth yn 1889. Yn 1896 roedd yn hyfforddi ebol dyflwydd oed, cyn ei rasio yng Nghaerlŷr, pan ruthrodd yr anifail ymaith. Syrthiodd Harry i’r llawr a chafodd ei gicio yn ei dalcen. Bu farw yn y dafarn dridiau’n ddiweddarach, yn 35 oed. Daeth llawer o bobl i’r cynhebrwng a thynnwyd y llenni yn yr adeiladau ar hyd y ffordd i Eglwys Crist.

Gadawodd Harry wraig weddw a phedwar o blant, a oedd er hyn yr un mor awyddus i farchogaeth. Cadwai un mab, Herbert, yr Eagle Hotel yn Llanfyllin a daeth yn adnabyddus fel joci. Yn 1910 enillodd ras yn Sioe Llanfyllin. Ar ôl pasio’r llinell derfyn edrychodd Herbert yn ôl dros ei ysgwydd, heb sylweddoli bod ei geffyl yn rhedeg i gyfeiriad coeden. Fe’i trawyd i’r llawr gan gangen a bu farw’n fuan, yn 25 oed. Daeth tyrfa fawr i’w angladd yn y Trallwng.

Arferai’r mab ieuengaf, Harry, rasio merlod mewn digwyddiadau lleol. Roedd yn delio mewn crwyn anifeiliaid cyn ymfudo i Seland Newydd, lle priododd a lle bu’n gweithio fel gyrrwr a labrwr. Roedd yn filwr wrth gefn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a bu farw yn Wellington ym mis Rhagfyr 1918. Mae carreg fedd teulu’r Rudge yn Eglwys Crist yn cynnwys arysgrif coffa sy’n datgan y bu Harry farw “o effeithiau ei wasanaeth yn y rhyfel”.

Gyda diolch i Natalie Bass

Cod post: SY21 7JP    Map

I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ewch i ben uchaf y Stryd Fawr ac i lawr Raven Street. Croeswch y ffordd. Mae gorsaf y trên stêm ar y chwith wrth y gylchfan
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button