Ffordd y Ffair neu Wood Street

Logo of Welsh Place Name Society

Ffordd y Ffair neu Wood Street

Mae’r enw Cymraeg yn cyfeirio at ffair flynyddol a elwir yn Ffair y Borth. Ceir cofnod am y ffair hon yn 1691 ac fe’i cynhelir o hyd ar 24 Hydref mewn amryw leoliadau a meysydd parcio yn y dref.

Cyfeiria Wood Street at y coetir sydd y tu ôl i’r maes parcio, a gyferbyn â llwybr at y ffordd fawr gerllaw Waitrose. Perchen rhan o’r coetir hwn ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif oedd yr ymgymerwr Rowland Williams a gododd weithdy saer coed c.1903 ychydig y tu ôl i arosfan y bysys ar ochr ogleddol Wood Street. Coed wedi’u torri yn y coetir a’u sychu, a ddefnyddid ganddo i wneud eirch.

Roedd Rowland Williams yn saer olwynion ac yn saer cerbydau, yn ogystal. Ef a wnai’r gwaith cynnal a chadw ar lando Ardalydd Môn ac adeiladai geirt a wagenni ar gyfer symud tŷ ac i ddibenion masnachol eraill. Williams a adeiladodd gorff bws cyntaf Môn; gwasanaethai hwnnw bentrefi i’r dwyrain o Borthaethwy cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyflogid ryw 10 o seiri yn y gweithdy c.1905 ac roedd yno efail lle y gwnaed y cylchoedd haearn ar gyfer olwynion pren y cerbydau.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Selwyn T Williams a Chyngor Tref Porthaethwy

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Place Names Unbundled Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button