Pobl Conwy: Tom a Trevor Jones

sml-1-Trevor and Tom sml-2-Trevor and Tom

Pobl Conwy: Tom a Trevor Jones

Dyma ddau aelod o deulu sydd wedi bod yn hel cregyn gleision yn Afon Conwy ers can mlynedd a mwy. Mae Trevor a’i fab, Tom, yn sôn am eu magwraeth ar y cei, y dulliau traddodiadol a ddefnyddid, a’r hwyl a gawsant gyda’r pysgotwyr eraill ar hyd y blynyddoedd. Bu Trevor yn wirfoddolwr gyda bad achub Conwy ac ennillodd gwobr ddewrder y RNLI yn 1970, fel y gallwch ddarllen ar ein tudalen am yr orsaf bad achub.

Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.

Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain

Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

 

lrg-Trevor and Tom
 
 

 

 

Trawsgrifiad – geiriau Trevor mewn print italig

Mae o’n eu cael nhw i frecwast ac rydw i’n eu cael nhw i de [y ddau yn chwerthin]. Dyna’r gwahaniaeth

Tom Jones ydw i, pysgotwr yn Conwy Mussels

Trevor Jones ydw i, tad Tom, ac rydw i’n bysgotwr hefyd, wedi hanner ymddeol.

Rydw i’n bysgotwr, mae fy nhad yn bysgotwr, roedd ei dad o’n bysgotwr, sef fy nhaid, felly mwy na thebyg, fi yw’r drydedd neu’r bedwaredd genhedlaeth ...

Pan oeddem yn blant, roeddwn i a’m chwiorydd yn arfer chwarae ar y Cei drwy’r amser, yn mynd ar gwch, yn rhwyfo o gwmpas; roeddem yn rhwyfo ar yr afon pan oeddem yn tua saith neu wyth oed wyddoch chi ...

Felly, i fi; roeddwn i’n gwybod mai pysgotwr oeddwn i eisiau bod pan ddechreuais i, ‘da chi’n gwybod, pan ddechreuais i chwarae o gwmpas pan oeddwn i’n dechrau yn fy arddegau, felly roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n mynd ymlaen i fod yn bysgotwr o ryw fath, mwy na thebyg gyda chregyn gleision ...

... mae tymor y cregyn gleision yng Nghonwy wedi bod o fis Medi tan fis Ebrill erioed, sef yn Saesneg, pob mis gydag ‘r’ ynddo, dyna’r dywediad ...

... rydyn ni’n dal i ddefnyddio’r ffordd draddodiadol o gasglu cregyn gleision, sef gyda chribin hir ...

... felly rydych chi’n eu crafu nhw oddi ar wely’r môr, fel un dyn mewn cwch, gwaith corfforol, beichus iawn ...

... Dyna’r ffordd mae wedi bod erioed, casglu â llaw ac yn bennaf gyda chribin dolen hir ...

... unrhyw beth hyd at 20 troedfedd, 25 troedfedd, a dyna oedd y dull traddodiadol ac felly mae’n parhau i fod ... Yn y dyddiau hynny, roedd y rhan fwyaf o’r cregyn gleision yn cael eu gwerthu ym Mirmingham, Sheffield, Halifax, Huddersfield, lleoedd felly ... Yn y dyddiau hynny, roedd hyd at 30 tunnell yr wythnos yn cael eu hanfon o Gonwy, trwy’r gydol y gaeaf ...

... Mae’r oes wedi newid mewn gwirionedd, mae’r marchnadoedd wedi newid ... mae pobl yn dod atom ni nawr, wyddoch chi, oherwydd mae gennym bobl o Lundain a phob man yn dal i ddod atom ni gan ddweud ‘o, roedden ni’n arfer cael eich cregyn gleision chi, rydyn ni wedi dod yr holl ffordd yma i’w cael nhw eto ...

... ’da ni’n gallu eu gwerthu nhw a’u cadw nhw’n lleol rŵan felly ... mae’n gweithio o’n plaid ni mewn gwirionedd ...

... ’Dw i wedi gweld newidiadau enfawr yn y maes pysgota yn fy nydd, ar y cei yn gyffredinol .. dydw i ddim yn meddwl y bydd cregyn gleision yn cael eu gwneud mewn swmp o Gonwy byth eto, ‘dw i’n meddwl y bydd y broses yn debycach i’r hyn y mae Tom yn ei wneud, marchnadoedd arbenigol, yn gwerthu wrth y drws ...

... Dydi pethau ddim yr un fath nawr, oherwydd roeddech chi’n mynd i lawr ac efallai mai dim ond un neu ddau ohonoch fyddai yno. Yn yr hen ddyddiau, byddai deg neu bymtheg cwch, pob un yn crafu mewn gwahanol fannau ac roedd pawb yn cael hwyl ac yn tynnu coes wrth i chi weithio ac ati ...

... ’Dw i bob amser wrth fy modd ‘efo’r hwyl rydych chi’n ei gael, y cyfeillgarwch, oherwydd mae’r gwaith yn waith caled; wyddoch chi, mae hi’n oer, yn wyntog, yn gynnar yn y bore, felly mae’n rhaid i chi chwerthin, mae’n rhaid i chi fwynhau ... ond cymuned yw hi yma yng Nghonwy wyddoch chi, y pysgota, mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd ... rydych chi’n gofalu am eich gilydd a dyna sy’n ei wneud yn waith llawn mwynhad ...

... ac mewn ffordd, mae’n braf sicrhau ei fod yn parhau ar y trywydd cywir ...

Pen y dudalen