Bwlch Sychnant

sychnant_pass_coachingDyffryn byr a serth ydi Bwlch Sychnant rhwng Alltwen, i'r gogledd, a Maen Esgob, i'r de. Yn anaml y gwelir dŵr yn llifo ar hyd y gwaelod, felly mae’r enw Sychnant yn briodol.

Ar hyd y rhan hon o arfordir Gogledd Cymru, mae ucheldiroedd Eryri yn dod yn agos at y môr. Felly Bwlch Scyhnant oedd y llwybr mwyaf ymarferol ar gyfer y ffordd tyrpeg i'r gorllewin o Gonwy a adeiladwyd ym 1772. Roedd y ceffylau yn blino’n fuan wrth ddringo o'r gorllewin, ac yn 1830 dyfeisiodd Thomas Telford ffordd a oedd bron yn wastad o amgylch Penmaen Bach, y penrhyn creigiog rhwng Alltwen a'r môr.

Mae'r trac concrid sy'n arwain tua'r gogledd o'r meysydd parcio yn rhedeg heibio i Garreg Felen, a ffurfiwyd gan lafa folcanig tua 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Staeniau haearn sy’n gyfrifol am ei liw nodedig.

Y llwybr gorau i lawr os ydych ar droed ydi’r hen drac, ychydig yn is na'r ffordd bresennol. Wrth i chi ddisgyn, peidiwch ag anghofio gweiddi tuag at y llethr gyferbyn, er mwyn clywed yr adlais!

Defnyddiwch y ddelwedd isod i ganfod enwau nodweddion sy’n weladwy o'r Fwlch Sychnant.

image of sychnant pass view

Map

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button