Cored Camlas Gyflenwi'r Dociau, Y Gored Ddu, Caerdydd

Mae'r gored a welwch yma yn dargyfeirio peth o ddŵr afon Taf i gamlas gyflenwi’r dociau, a adeiladwyd yn y 1830au i ailgyflenwi'r Doc Gorllewin Bute newydd. Mae'r dŵr yn parhau i gyflenwi hen Ddoc Dwyreiniol Bute a Doc y Rhath sy'n parhau’n weithredol.

Mae'r gored yn y gornel chwith uchaf yn y llun o'r awyr ym 1948, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru. Mae'r gamlas gyflenwi yn arwain at y gornel dde isaf.

1948 aerial photo of Blackweir and the dock feeder canalRoedd coredau cynharach, ychydig ymhellach i fyny'r afon, yn dargyfeirio dŵr i nentydd melinau yn yr oesoedd canol . Mae un yn cael ei grybwyll mewn dogfen o 1315. Crëwyd cored a ffos felin newydd ym 1751.

Dechreuwyd adeiladu camlas gyflenwi'r dociau ym 1834, dair blynedd cyn adeiladu'r doc newydd. Cafodd y fenter ei hyrwyddo gan Ardalydd Bute, a oedd yn berchen ar lawer o'r tir yng Nghaerdydd, gan gynnwys yr hyn sydd bellach yn Barc Bute.

In October 1834 prospective builders of the feeder were invited to view the plans and specifications at the Bute Ship Canal office (the dock was identified as a “ship canal” in the project’s early stages). An important function of the feeder canal was to supply a reservoir near the dock which would flush the dock entrance and low tide, keeping it free of siltation.

Ym mis Hydref 1834 gwahoddwyd darpar adeiladwyr y gamlas gyflenwi i weld y cynlluniau a'r manylebau yn swyddfa Camlas Longau Bute (nodwyd bod y doc yn "gamlas longau" yng nghamau cynnar y prosiect). Un o swyddogaethau pwysig y gamlas gyflenwi oedd cyflenwi cronfa ger y doc a fyddai'n fflysio mynedfa'r doc ar lanw isel, gan ei gadw'n rhydd o waddodiad.

Ym 1835 caewyd Camlas Morgannwg dros dro i draffig tra cloddiwyd twnnel ar gyfer y gamlas gyflenwi oddi tano (ger cornel ogledd-ddwyreiniol y castell).

Nododd yr Ardalydd y dylid adeiladu llwybr troed ar hyd y gamlas gyflenwi o'r afon i'r castell. Gallwch ddilyn y llwybr – sydd bellach â choed collddail ar ei hyd - o'r gored i ben de-ddwyreiniol Parc Bute. Gweler ein tudalen am Bont y Pysgotwr am fanylion bywyd gwyllt ar hyd y gamlas gyflenwi. Mae'r dŵr yn llifo dan ddaear trwy ganol y ddinas, ond cafodd rhan ohoni yn Ffordd Churchill ei hail ddatgelu yn 2022-23.

Yn yr hydref bydd brithyllod y môr ac eogiaid yn llamu dros y gored i gyrraedd y mannau silio i fyny'r afon. Codwyd y bont droed dros afon Taf yma yn yr 1980au gan Brifysgol Caerdydd i gyd-fynd â datblygu llety myfyrwyr ger llaw. Roedd myfyrwyr peirianneg yn rhan o brosiect y bont.

 

Map

button-tour-dock-feeder Navigation downstream button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button