Bron Hendre, Caernarfon
Pan adeiladodd offeiriad Anglicanaidd y tŷ hwn, sicrhaodd ei fod yn ddigon cadarn i fod yma pan ddychwelodd ar ôl ei ailymgnawdoliad! Heddiw mae'n cael ei feddiannu gan wasanaeth gofal integredig Derwen – peidiwch â mynd i mewn i'r tir.
Symudodd y Parchedig James Hews Bransby i Gaernarfon yn 1829. Roedd yn Sais cefnog a ffodd o Dudley, lle'r oedd yn weinidog eglwys, ar ôl sgandal yn ymwneud â banc cynilo. Roedd ganddo gyfranddaliadau mewn mwynglawdd gopr ym Meirionnydd. Yn 1836 sefydlodd Ysgol Ramadeg a Cholegol ar draws y ffordd o Fron Hendre, lle roedd rhai o'r disgyblion yn breswyl. Ef oedd golygydd cyntaf y Carnarvon Herald. Bu farw'n sydyn yn 1847 tra'n dysgu yn yr ysgol.
Dywedir iddo fod yn ddysgedig ac eang ei feddwl, yn Eglwyswr selog ond hefyd yn gredwr mewn ailymgnawdoliad. Roedd yn disgwyl, pan ddychwelai yn ei fywyd nesaf, y byddai'n byw eto ym Mron Hendre. Yn ôl pob sôn, mynnodd fod y tŷ yn cael ei adeiladu o'r deunyddiau gorau posib, gyda bolltau haearn yn atgyfnerthu'r cymalau rhwng y cerrig, fel y byddai'n dal i sefyll iddo yn ei fywyd nesaf.
Ar ddechrau'r 20fed ganrif roedd Bron Hendre yn gartref i deulu cerddorol Charles Alfred Jones, cyfreithiwr ym Mhlas Bowman. Roedd ei wraig Catherine Anne yn berchen ar y bysellfwrdd ymarfer piano tawel (heb sain) yn y llun yma (trwy garedigrwydd David Alexander). Mae'r llun isaf yn dangos ei henw a'i chyfeiriad ar y gwaelod. Charles oedd cadeirydd y pwyllgor cerdd ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Caernarfon yn 1894.
Llwyddodd trydedd ferch y cwpl, Alice, i basio'r arholiad Academi Gerdd Frenhinol yn 1903, ar ôl cael ei dysgu gan ei mam a Mr Lewis Jones, meistr yr ysgol ramadeg. Yn 1902 bu "Misses Jones" o Fron Hendre yn diddanu tlodion yn wyrcws Caernarfon trwy chwarae offerynnau cerddorol amrywiol.
Roedd Alice yn aml yn canu'r piano a'r soddgrwth mewn digwyddiadau lleol, weithiau yn cyfeilio i gantorion neu offerynwyr. Ym mis Gorffennaf 1917 perfformiodd mewn datganiad yn Eglwys Crist a roddwyd gan yr organydd Capten CA St George Moore o'r Peirianwyr Brenhinol. Priododd Alice ef ym mis Mawrth 1918.
Diolch i Dr Hazel Pierce a David Alexander, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL55 2HP Gweld Map Lleoliad