Plas Bowman, Caernarfon
Mae gan y tŷ cornel hwn blac gyda'r dyddiad 1808 a'r llythrennau cyntaf RN. Y llythrennau cyntaf yw rhai aelod o deulu’r Nanney, yn ôl yr hanesydd lleol W H Jones ym 1881. Roedd y Nanneys yn ddylanwadol yn Sir Gaernarfon o ddechrau'r 18fed ganrif. Gorchfygwyd Ellis Nanney, ymgeisydd y Ceidwadwyr, gan David Lloyd George mewn isetholiad ym 1890 a chafodd ei wneud yn farwnig ym 1897.
Ar ffasâd Stryd yr Eglwys o’r adeilad mae plac dyddiedig 1652. Roedd Plas Bowman gynharach ar y safle hwn yn perthyn i Gorfforaeth Carnarvon tan Ebrill 1430, pan gafodd ei drosglwyddo i Thomas Bowman.
Ar ôl ailadeiladu 1808, defnyddiwyd Plas Bowman at wahanol ddibenion. Yn 1823 hysbysebodd Mrs Edwards o Plas Bowman lety wedi'u dodrefnu yma, gan dynnu sylw eu bod yn “gyfagos i'r baddonau oedd yn mynd i gael ei codi” ac felly'n ddelfrydol ar gyfer pob anhwylder. Roedd hi'n cyfeirio at y baddonau cyhoeddus a oedd ar fin agor yn Stryd yr Eglwys.
Yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif roedd yr adeilad yn gartref i swyddfeydd y llys sirol (ar gyfer anghydfodau sifil) a chofrestrau ardal yr Uchel Lys. Roedd y llys sirol ei hun drws nesaf yn Stryd yr Eglwys, ar safle plasty o'r enw Plas Spicer.
Ar ddechrau'r 20fed ganrif, roedd y cyfreithiwr Charles Alfred Jones (yn y llun) wedi'i leoli ym Mhlas Bowman. Trigai gyda'i deulu cerddorol ym Mron Hendre. Roedd wedi hyfforddi o dan ei ewythr, Syr Llewelyn Turner. Yn 1902 fe'i dewiswyd i gymryd rhan yng nghoroni'r Brenin Edward VII yn Abaty Westminster. Yn ddiweddarach derbyniodd dlws gan y brenin am ei wasanaeth yn y digwyddiad. Bu'n gadeirydd y cyngor sir, a daeth yn faer Caernarfon yn 1915.
Roedd aelodau o deulu Spicer yn amlwg ym mywyd Caernarfon. Roedd un ohonyn nhw'n gweithio yn nhrysorlys y dref, wrth giât y dwyrain. Roedd ganddo etifeddiaeth incwm blynyddol o £ 50. Gwnaeth hyn yn ogystal a’i waith fel masnachwr ef yn “ddyn pwysig a chyfoethog”, yn ôl Syr John Wynne o Ystâd Gwydir yn Llanrwst. Roedd ei fab, John Spicer, yn un o ynadon cyntaf yr heddwch yn y system farnwrol ddiwygiedig o Gymru a gyflwynwyd o dan y Brenin Harri VIII yn y 1530au. Sonnir hefyd am Spicer yng nghofnodion Caernarfon yn ystod Rhyfel Cartref y ganrif ganlynol.
Cafodd Plas Bowman ei ddifrodi’n ddrwg gan dân ym 1999 ac roedd yn wag am sawl blwyddyn, nes iddo gael ei adfer at ddefnydd preswyl.
Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad
Cod post: LL55 1RN Map
![]() |
![]() ![]() |