Castell Caernarfon
Castell Caernarfon
Mae Castell Caernarfon yn un o nifer o gestyll a godwyd ar orchymyn y Brenin Edward I o Loegr fel rhan o gyfeddiannu Chymru ar ddiwedd y 13eg ganrif. Yn wahanol i'r lleill, mae gan Gaernarfon dyrau amlochrog, wedi'u modelu ar amddiffynfeydd a adeiladwyd ar gyfer yr ymerawdwr Cystennin yng Nhgaer Gystennin (Constantinople), prifddinas yr ymerodraeth Rufeinig ddwyreiniol. Roedd siâp y tyrau i fod i daflunio grym goresgynol Lloegr.
Adeiladwyd mwnt a beili Normanaidd yma yn yr 11eg ganrif ond cipiwyd ef gan y Cymry ym 1115. Cynlluniwyd ac adeiladwyd castell Edward ar y cyd â thref newydd i'r gogledd, wedi'i amgylchynu gan waliau amddiffynnol a oedd yn ymuno â'r castell. Dechreuwyd adeiladu'r castell yn 1283, gan ganolbwyntio i ddechrau ar yr ochr ddeheuol oherwydd bod muriau newydd y dref yn amddiffyn yr ochr ogleddol.
Cipiodd gwrthryfelwyr Cymreig y dref a'r castell, gan achosi difrod, yn 1294 ond fe’u gyrrwyd allan yn fuan. Ysbrydolodd y digwyddiad ffocws o'r newydd ar waliau gogleddol y castell. Cymerodd 47 mlynedd i adeiladu'r castell.
Daeth peth o garreg y castell o'r gaer Rufeinig gerllaw. Roedd Tŵr yr Eryr, gyda waliau 5.5 metr (18 troedfedd) o drwch, yn gartref i'r ystafelloedd brenhinol. Yn ôl y sôn, ganed mab Edward, a ddaeth yn Frenin Edward II, yno yn 1284, er bod traddodiad lleol yn dweud iddo gael ei eni ym Mhlas Puleston, plasty yn y dref gaerog, ac wedyn ei gyflwyno yn y castell.
Enwodd Edward y bachgen yn “Dywysog Cymru” i bwysleisio nad oedd gan Gymru dywysogion cynhenid bellach. Dechreuodd hyn y confensiwn o’r teitl hwnnw yn urddo etifeddion gwrywaidd i'r orsedd. Cynhaliwyd seremonïau arwisgo Tywysogion Cymru yn y castell ym 1911 a 1969. Cafodd yr olaf ei wylio ar y teledu gan dros 500 miliwn o bobl ledled y byd.
Cipiwyd y castell gan Seneddwyr yn Rhyfel Cartref yr 17eg ganrif. Syrthiodd i'r cyflwr adfeiliedig a welir yma ym mhaentiad JMW Turner ym 1799. Trawsnewidiwyd yr olygfa hon o'r castell ym 1817 pan ehangwyd y cei llechi'n helaeth. Disodlodd waliau cynnal uchel y llethr a welir ar y dde yn y llun, ac adeiladwyd y tir allan dros glan yr afon wrth ochr y castell.
Ysgogodd yr arweinydd dinesig lleol Syr Llewelyn Turner waith adfer yn y 19eg ganrif. Roedd yn ymwybodol o bwysigrwydd economaidd cynyddol twristiaeth, a cheisiodd ailadeiladu carchar y dref ar gyrion y dref fel na fyddai'n weladwy o'r castell.
Heddiw mae'r castell yng ngofal Cadw. Mae’r castell a’r dref gaerog yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ynghyd â’r rheiny yng Nghonwy, Biwmares a Harlech. Mae dau o dyrau'r castell yn gartref i Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ymweld.
Cod post: LL55 2AY Map
Castell Caernarfon – gwefan Cadw
Gwefan Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |