Gwesty’r Castell, y Stryd Fawr, Conwy

button-theme-history-for-all

British Sign Language logoGwesty’r Castell, y Stryd Fawr, Conwy

Mae Gwesty’r Castell yn cyfuno gwesty’r King’s Head gynt a’r Castle Inn.  Mae’n bosib fod y King’s Head, i’r chwaith o’r porth yn arwain i faes parcio’r gwesty, yn dyddio’n ôl i oddeutu 1576. Pan ddywedodd y Frenhines Elizabeth I y byddai unrhyw bost o Loegr i Iwerddon yn croesi’r môr o Gaergybi yn hytrach na Lerpwl.  Daeth Conwy yn arhosfan ar y ffordd i Gaergybi.

Ym 1832, darparodd Gwesty’r Castell (a oedd bellach wedi newid ei enw o’r Castle Inn) ginio ar gyfer y Dywysoges Fictoria, a oedd yn 13 mlwydd oed, a’i mam, wedi iddynt ymweld â Chastell Conwy.  Daeth y Dywysoges Fictoria yn Frenhines bum mlynedd yn ddiweddarach.  Ym 1863, bu i'r Tywysog Arthur, trydydd mab Fictoria giniawa yn y gwesty.

Ym 1848, roedd y peirianwyr enwog, George a Robert Stephenson yn westeion gwadd mewn gwledd i ddathlu cwblhad pont reilffordd diwbaidd Conwy.

conwy_john_dawson_watson_paintingDaeth Sarah Dutton yn rheolwraig ar Westy’r Castell yn y 1860au yn 26 mlwydd oed. Yn ddiweddarach, prynodd y King’s Head a chyfuno’r adeilad â Gwesty’r Castell.

Bu i ddau aelod Fictoraidd o’r Academi Frenhinol Gymreig greu’r darluniau sydd yn dal i’w gweld ar baneli a drysau’r gwesty (llun ar y dde). Roedd un o'r aelodau, John Dawson Watson, yn byw yn y gwesty am berth amser – ac o bosib ei fod wedi peintio yma yn lle talu rhent am ei lety! 

Yn ôl y chwedl, gofynnodd forwyn a oedd yn bur wael i gael ei chladdu ar ei chartref brodorol, Ynys Môn, ond yn hytrach cafodd ei chladdu yn y fynwent y tu ôl i’r gwesty, o bosib oherwydd y clefyd heintus a oedd yn bla ar y pryd. Yn ôl y sôn, bu sawl digwyddiad goruwchnaturiol nes i’w chorff gael ei ddatgladdu a’i gladdu eto ger ei chartref.

Gyda diolch i Ray Castle a Will Swales

Cod post: LL32 8DB    Map

 

Ghosts and Legends Tour Lable Navigation previous buttonNavigation next button
Conwy Food & Drink Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button