Cartref morwr a fu farw o’r colera, Abertawe
Cartref morwr a fu farw o’r colera, 66 Heol y Gwynt, Abertawe
Yn 1893 twyllwyd morwr a oedd yn byw yn yr adeilad hwn, The Perch bellach, i gario pererinion o Arabiaid ar draws y môr. Bu ef a channoedd tebyg iddo farw o achos y colera. Am ragor o wybodaeth am yr adeilad hwn, gweler y Troednodiadau.
Morwyr o Abertawe oedd mwyafrif criw’r agerlong Etna. Credai’r criw mai cludo nwyddau o Ogledd Affrica y bydden nhw. Deuddydd wedi iddyn nhw adael Abertawe, dywedwyd wrthyn nhw y byddai’r llong yn cludo pobl.
Er gwaetha gwres enbydus a diffyg cyfleusterau iechydol, ni ddigwyddodd yr un anffawd yn ystod y ddwy fordaith gyntaf. Daeth 1,700 o bererinion ar fwrdd y llong yn Jeddah a chododd y colera ei ben; bu farw’r is-beiriannydd ynghyd â thaniwr. Yn ôl amcangyfrif gan un o’r rheini a ddaeth drwyddi, collwyd 200 o Arabiaid yn ystod y fordaith bum diwrnod - taith y byddid wedi ei chwblhau yn hanner yr amser, petai’r criw yn holliach.
Wedi’r diheintio dychwelodd y llong i Jeddah i gasglu rhagor o bererinion. Cododd y colera ei ben drachefn a’r tro hwn collwyd William Caldwell, 66 Wind Street. Roedd yn daniwr 33 oed (ei waith oedd porthi tân bwyler y llong).
Er nad oedd nifer y criw yn hollol ddigonol daeth 1,500 yn ychwanegol ar fwrdd y llong. Y bwriad oedd teithio i Beirut. Ni ellid gollwng cyrff o’r llong wrth iddi deithio drwy Gamlas Suez, ond clymid y cyrff pydredig wrth ochrau’r llong â rhaffau tra pharhaodd cyflenwad o raffau. Rhwystrwyd y llong rhag glanio mewn lliaws o borthladdoedd. Wedi cyfnod o gwarantin fe’i llwythwyd â mwyn haearn a hwylio i Stockton-on-Tees; cyrhaeddwyd yno bum mis wedi i’r llong hwylio o Abertawe. Collwyd pump o’r criw.
Côd Post: SA1 1EQ Map
Gwefan bwyty tapas a bar The Perch
Troednodiadau: Mwy o hanes y siop
Yn 1854, siop fferyllydd, Charles T Wilson, oedd 66 Wind Street. Erbyn y 1890au cynnar, roedd yn siop prydau parod.
Yn 1891, ymwelodd swyddog iechyd Abertawe â'r safle yn sgil cwynion am y "busnes ffrio pysgod". Gorchmynwyd i'r perchennog, John Morgan, ddefnyddio'r dulliau mwyaf ymarferol posibl er mwyn atal y niwsans.
Yr un flwyddyn, cafwyd labrwr o Dreforys o'r enw David Jones yn euog o ddwyn coes o borc wedi'i choginio o gownter y siop. Roedd wedi gofyn am bysgodyn wedi'i ffrio, ond gwrthodwyd ef gan Mrs Morgan am ei fod yn feddw. Dihangodd gyda'r porc, ond cafodd ei ddal y noson honno, â'r porc dan ei gôt, gan blismon yng Nglandŵr. Cafodd Jones ddewis naill ai talu dirwy o 40 swllt neu dreulio mis yn y carchar.
View Cholera sailor's former home HistoryPoints.org in a larger map