Cyn-ffatri clociau, Abertawe
Cyn-ffatri clociau, 16 Wind Street, Abertawe
Mae'r Peppermint Bar ar safle oedd yn cynnal pump o siopau a busnesau ar un adeg. Yn 16 Wind Street, cynhyrchai a gwerthai Cornelius Tyte glociau a watsys. Gwnâi waith gemydd a gof arian ar y safle yn ogystal. Roedd ei deulu yn wneuthurwyr clociau yn Wells yng Ngwlad yr Haf. Credir iddo weithio yma am ryw 40 mlynedd, ganol y 1820au.
Fel rheol, ceir nod sef "C Tyte, Swansea" ar amseryddion o'i waith. Ar ocsiwn yn 2004, gwerthwyd un cloc hirgadwynog mahogani a wnaed ganddo am £2,585.
A hithau wedi troi 11.00 ar nos Fercher ym mis Gorffennaf 1858, aeth cynorthwyydd Mr Tyte i'w loft; sylwodd ar oglau llosg yn dod o rif 15, y siop ddillad drws nesaf. Dinistriwyd stoc gwerth £400 yn y tân (tua £45,000 yn arian heddiw) ac achoswyd difrod gwerth £150 i'r adeilad. Roedd y nwyddau a'r eiddo wedi'u hyswirio.
Yn 1846 achosodd tân yn rhif 17 ddifrod gwerth £200, y rhan fwyaf heb ei yswirio. Argraffwyr a gwerthwyr papur, Ivey and Pearse, oedd yn yr adeilad. Ffoi yn eu dillad nos wnaeth y rheini oedd yn byw yn y tai gyferbyn, wrth i filwyr a heddlu ddechrau "arllwys dŵr" ar yr adeilad. Yn ddiweddarach yn y ganrif honno, yma roedd y Globe Dining Rooms. Gallai gwesteion aros dros nos; roedden nhw hefyd yn darparu ar gyfer "partïon picnic".
Ddechrau'r 20fed ganrif yr enw ar rif 15 a rhif 16 oedd Salisbury Chambers - swyddfeydd brocer stoc, pensaer, teiliwr, asiantau gweithiau glo, bracty Worthington ac eraill.
Ar un adeg roedd rhif 13 (lle y mae'r prif fynedfa i Peppermint, erbyn hyn) yn siop gwerthwr persawr, John Morgan Jones. Gwerthai, yn ogystal, fenig, hetiau a gwallt addurnol, "ornamental hair" chwedl nhwythau. Roedd wedi etifeddu'r fusnes gan ei fodryb a'i ewythr yn 1842. Ddechrau'r 20fed ganrif gwerthai'r brodyr Maggs adar caeth ar y safle. Yn 1913 roedden nhw'n hysbysebu "canaries in full song, cages, medicines and appliances".
Tan 1824, yr Irish Linen Warehouse oedd yn rhif 14; yno gellid prynu nwyddau wedi'u gwneud o liain o Iwerddon. Yn ddiweddarach yn y y ganrif honno, roedd offerynnau cerdd yn cael eu gwerthu ar y safle.
Cod post: SA1 1DP Map