Gorsaf bad achub Cricieth, Lon Felin, Cricieth
Sefydlwyd gorsaf bad achub Cricieth ym 1853 gan Gymdeithas Frenhinol Llesiannol Brenhinol Pysgotwyr a Morwyr Llongddrylliedig.
Dyw hi ddim yn glir a oedd hyn ym Mhorthmadog neu Gricieth, ond wedi i'r RNLI gymryd drosodd holl orsafoedd SFMRBS yn 1854 roedd y bad achub wedi'i leoli yng Nghricieth. Dyfarnwyd medalau arian am ddewrder ym 1845 i bedwar dyn lleol am gynorthwyo llong Americanaidd o'r enw Glendower.
Mae'r lluniau, trwy garedigrwydd yr RNLI, yn dangos y bad achub Caroline, sydd wedi'i lleoli yng Nghricieth 1886-1910, a golygfa o'r bae tua'r un adeg, gyda'r hen orsaf bad achub a llithrfa ger canol y llun.
Yn 1885, achubodd y criw saith morwr a oedd yn glynu wrth weddillion y llong tri mast Spanker sawl awr ar ôl iddi gael ei dryllio ger Harlech. Roedd y bad achub wedi aros sawl awr ar y môr garw am doriad dydd.
Parhaodd yr orsaf i gael ei hadnabod fel yr gorsaf "Portmadoc" tan 1892, pan gafodd ei hailenwi'n orsaf Cricieth. Yn yr un flwyddyn ailadeiladwyd y tŷ cychod yn ar gost o £600 ac mae hwn yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Yn 1894 defnyddiwyd signalau sain am y tro cyntaf i alw'r criw, a oedd wedi cael eu galw allan gan negesydd cyn hynny.
Yn 1910, cafodd pedwar aelod o griw'r bad achub eu golchi dros bwrdd yn ystod dau lansiad i gychod pysgota. Cafodd pawb eu achub yn ddiogel. Gweler y troednodiadau isod i gael manylion am achubiadau eraill.
Caeodd yr orsaf yng Nghricieth yn 1931, pan farnwyd bod y bad achub modur newydd ym Mhwllheli yn darparu digon o orchudd lleol ar gyfer rhan ogleddol Bae Ceredigion. Yn dilyn trasiedi lle boddodd pump o bobl - gan gynnwys pedwar bachgen ysgol - oddi ar Gricieth ym mis Medi 1951, ail-agorwyd yr orsaf ym 1953 i ddarparu mwy o sicrwydd cyflym i'r ardal. Gallwch ddarllen am y gofeb i'r bechgyn a foddodd yma.
Anfonwyd bad achub gyda’r glannau i'r orsaf yn 1967 a thynnwyd y cwch pob tywydd yn ôl ddiwedd Mawrth 1968. Rhoddwyd badau achub gyda’r glannau yn gynyddol fwy yng Nghricieth ym 1983, 1993, 1994 a 2007.
Yn 2009-10 treialodd yr RNLI gwch y glannau bychan Arancia, a ddefnyddiwyd gan achubwyr bywyd traeth, yng Nghricieth i brofi a fyddent yn goresgyn problemau a wynebir gan yr Atlantic 85 yr orsaf yn nyfroedd bas aberoedd Dwyryd a Glaslyn. Gwnaed y trefniant hwn yn barhaol ym mis Tachwedd 2010 gyda Chricieth yn orsaf bad achub gyntaf yr RNLI i weithredu IRB Arancia.
Mae'r gwasanaeth bad achub yn y DU yn cael ei ddarparu nid gan y llywodraeth ond gan yr RNLI, elusen sy'n dibynnu ar roddion gan y cyhoedd. Ers ei sefydlu yn 1824, amcangyfrifir bod yr RNLI wedi achub tua 140,000 o fywydau. Mae'n cyflogi rhai aelodau o'r criw ond mae'r rhan fwyaf, 40,000 i gyd, yn wirfoddolwyr sy'n gadael eu gwaith, eu teuluoedd neu eu gwelyau pryd bynnag y mae angen eu bad achub.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL52 0DN Gweld Map Lleoliad
RNLI ar wefan HistoryPoints.org
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |