Locomotif chwarel De Winton, Dinas, Caernarfon
Adeiladwyd y locomotif bach hwn, o'r enw Llanfair, ym 1895 yng Ngwaith Haearn Undeb cwmni De Winton, y gellir gweld rhannau ohono o hyd ger gorsaf Rheilffordd Ucheldir Cymru yn Caernarfon. Roedd yn tynnu wagenni yn chwareli gwenithfaen Penmaenmawr. Cafodd ei adfer yn rhannol mewn amgueddfa yn Surrey, ac yn ddiweddarach cafodd ei arddangos yn chwarel lechi Gloddfa Ganol ym Mlaenau Ffestiniog. Ar ôl i Gloddfa Ganol gau i dwristiaid yn 1997, symudodd y locomotif i Reilffordd Ucheldir Cymru ac mae bellach yn cael ei arddangos yng ngorsaf Dinas.
Roedd De Winton yn arbenigo mewn locomotifau syml gyda boeleri fertigol, yn hytrach na'r boeleri llorweddol a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o locos eraill. Roedd yr enghraifft hon yn rhedeg ar draciau gyda 91cm (3tr) rhwng y rheiliau.
Roedd y teulu Darbishire, oedd yn berchen chwareli Penmaenmawr, yn hynod hoff o Locos De Winton. Roedd fforman y chwarel hyd yn oed wedi adeiladu model o un, ar gais y teulu. O 1905 rhoddodd reidiau i'r teulu a'r gwesteion ar hyd trac bach ar dir Plas Mawr, cartref y teulu.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL54 5UP
Rheilffordd Ffestiniog ar HistoryPoints.org
Gwefan Rheilffordd Ucheldir Cymru
View De Winton quarry locomotive in a larger map