Cyn warws tollau, 9 Stryd y Plas, Caernarfon
Cyn warws tollau, 9 Stryd y Plas, Caernarfon
Daeth yr adeilad hwn yn warws tollau ar ôl i Gaernarfon ddod yn borthladd y doll yn 1842. Roedd dynodiad y porthladd yn golygu y gellid mewnforio nwyddau heb dalu trethi nes iddynt gael eu gwerthu ar ôl eu prosesu.
Roedd angen warysau rhwymedig yn y dref, i storio'r nwyddau dan amodau llym i atal smyglo. Roedd yr adeilad hwn yn un o dri warws toll yn Stryd y Plas, gyda’r lleill yn seler Neuadd y Farchnad ac yn Nhafarn y Pen Deits (ar y gornel gyferbyn â’r castell). Adeiladwyd warws toll arall gan Morgan Lloyd, ar y llethr rhwng y Cei Llechi a'r Maes (Sgwâr y Castell).
Roedd y teulu Pritchard yn berchen ar 9 Palace Street c.1826. Credir eu bod yn masnachu mewn gwin a gwirodydd, pan oedd yr adeilad hefyd yn dafarn o'r enw The Vaults. Roedd seleri helaeth ar gyfer storio nwyddau a fewnforiwyd.
Yn 1868 Williams, Evans & Co oedd y perchnogion, ac erbyn hynny roedd yn warws tollau lle roedd gwirodydd a gwinoedd yn cael eu potelu cyn eu gwerthu am bris oedd yn cynnwys treth. Ychydig yn ddiweddarach, o dan y perchnogion Davies & Griffiths, unwyd cefn yr adeilad â 14 Stryd Twll yn y Wal.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif roedd 13 o dafarndai yn y stryd fer hon! Roedd tua 60 yng Nghaernarfon. Roedd gwell technoleg gwydr yn galluogi siopwyr i osod ffenestri mwy i arddangos eu nwyddau, ond roedd tafarndai’n tueddu i gadw ffenestri llai fel na fyddai yfwyr i’w gweld yn hawdd o’r tu allan!
Rhwng 1935 a 1965, bu W Rowland & Co o Fangor yn masnachu yma. Roedd gwinoedd a gwirodydd yn dal i gael eu gwerthu yma yn y 1970au. Ers hynny mae'r adeilad wedi cael defnydd amrywiol, gan gynnwys siop awyr agored a champfa. Yn 2016 fe’i cymerwyd drosodd gan y gymdeithas gymunedol Llety Arall, a’i droi’n llety safonol gyda siop ar y llawr gwaelod ac iard gefn ar gyfer gweithgareddau cymunedol.
Gyda diolch i Clive James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon, ac i Rhiannon James am y cyfieithiad
Cod post: LL55 1RR Map
![]() |
![]() ![]() |