Cyn Swyddfa Tollau, Porth yr Aur, Caernarfon

Cyn Swyddfa Tollau, Porth yr Aur, Caernarfon

Adeiladwyd yr adeilad a elwir Porth yr Aur ar gyfer Cyllid y Wlad yng nghanol y 19eg ganrif. Cyn hynny roedd Swyddogion y Tollau wedi'u lleoli yn yr Anglesey Arms.

Daw enw Porth yr Aur o'r porth canoloesol gerllaw. Roedd y swyddfa dollau ar dir lle'r oedd tŷ crand, o'r enw Plas y Porth, yn perthyn i deulu'r Penrhyn yn yr 16eg ganrif.

Roedd swyddogion y Swyddfa’r Dollau yn cadw llygad ar nwyddau a fewnforiwyd drwy ddociau Caernarfon, er mwyn sicrhau bod tollau cywir yn cael eu talu ac atal smyglo. Roedd eu hadeilad newydd yn cynnwys lle storio ar gyfer nwyddau wedi'u bondio (wedi'u trethu pan gânt eu gwerthu yn hytrach na phan gyrhaeddant). Roedd yn cynnwys seleri dwfn, waliau cerrig trwchus a thrawstiau cryf iawn. Roedd dau bwli  ar yr ochr ddeheuol a dwyreiniol, ar gyfer codi nwyddau i'r ail lawr i'w storio.

Symudodd un o swyddogion tollau Caernarfon, William Burns o Fangor, i swydd debyg yng ngorllewin Affrica, gan ymfudo’n ddiweddarach i Awstralia. Yno fe ymunodd â’r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, er ei fod dros “oedran milwrol”. Cafodd ei nwyo ar Ffrynt Gorllewin yn Ffrainc ym mis Mai 1918 a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach, yn 49 oed.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd rhan o'r warws yn orlawn o nwyddau yn perthyn i fyddin America. Rhoddodd y Swyddfa Ryfel y gorau i dalu am storfa yn 1960.

Wedi i swyddogion y tollau adael Porth yr Aur, meddiannwyd yr adeilad gan y brodyr Pritchard, Charles, Richard a Bob, a oedd yn llogi cychod i ymwelwyr. Roedd eu tad-cu Dafydd wedi rhedeg y fferi ar draws yr afon Seiont cyn adeiladu’r bont swing. Mae cân enwog amdano ‘Mae cwch Dafydd ‘Rabar ar y môr’.

Ym 1927 prynodd y brodyr lori am gontract i gyflenwi tywod i’r Weinyddiaeth Waith ar gyfer adfer muriau’r dref ganoloesol. Yn ddiweddarach fe wnaethant ehangu i symud dodrefn. Comisiynodd y pensaer Syr Clough Williams-Ellis, sy'n fwyaf adnabyddus am ei bentref ym Mhortmeirion, hwy i symud dodrefn tua 1948 i orsaf Penrhyndeudraeth, lle cafodd ei lwytho ar wagenni Rheilffordd Ffestiniog. Ymhellach i fyny’r lein i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog, dadlwythodd y brodyr y dodrefn a’i cludo ar draws caeau i dai Syr Clough.

Ymwelodd Syr Clough â Phorth yr Aur i drafod y broses gymhleth hon gyda Richard Bonner Pritchard. Roedd ei ffrind, y pensaer mawr o America, Frank Lloyd Wright, yn gwmni iddo. Gweler y Troednodiadau am atgofion.

Roedd Richard yn y Gwarchodlu Cartref yn ystod y rhyfel. Gyrrai ei wraig Megan lori yn danfon cyflenwadau i wersylloedd carcharorion rhyfel, gyda dau garcharor rhyfel Almaenig yn ei chynorthwyo. Byddai hefyd yn chwarae’r soddgrwth, ochr yn ochr â’i chwaer y feiolinydd Arfonia, mewn darllediadau byw o Fangor i’r sioe radio ar y BBC, It’s That Man Again. Daeth Megan yn faer benywaidd cyntaf Caernarfon yn 1974.

Gyda diolch i KF Banholzer, awdur yr arweinlyfr ‘Within Old Caernarfon’s Town Walls’, a Richard Bonner Pritchard

Cod post: LL55 1SN    Map  

 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button

Troednodiadau: Atgofion o ymweliad Frank Lloyd Wright â Phorth yr Aur

Roedd Richard Bonner Pritchard, mab y dyn symud Richard Bonner Pritchard, yn cofio yn 2021: “Gofynnodd Frank Lloyd Wright i mi sut oeddwn i. Bachgen bach oeddwn i, a doedd neb erioed wedi gofyn i mi sut oeddwn i. Doedd gen i ddim syniad sut i ateb. Roeddwn jyst yn syllu arno. Roedd Clough Williams-Ellis yn gwisgo sanau melyn a plws pedwar. Roedd ei goesau i'w gweld yn mynd ymlaen am byth. Ar ein hail lawr, roedd y nenfwd mor isel fel ei fod yn gallu codi coes a rhoi ei sawdl ar y trawstiau.”