Cyn-ffatri diemwnt, Stryd Fawr, Bangor

button-theme-evacImage of Bangor City Council Crest

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yr ystafelloedd uwchben siop y teiliwr hwn yn gartref i ffatri lle holltwyd diemwntau, eu llifio, eu siâpio a’u sgleinio.

Roedd y diwydiant diemwnt wedi dioddef yn y dirwasgiad yn y 1930au, ond wrth i'r rhyfel agosáu roedd galw o'r newydd gan y byddai angen diemwntau mewn peiriannau gwneud offer manwl, sy'n hanfodol ar gyfer cynhyrchu offer milwrol. Felly cynyddodd Prydain, ei chynghreiriaid a'i gelynion i fyny'r cyflenwad. Yn hanesyddol Antwerp ac Amsterdam oedd y canolfannau ar gyfer torri a sgleinio'r cerrig tra mai Llundain oedd y canolbwynt ar gyfer gwerthu. Wrth i fyddin yr Almaen ysgubo trwy'r Gwledydd Isel yng ngwanwyn 1940, dihangodd ambell dorrwr diemwnt i Brydain. 

Roedd gan Brydain eisoes ychydig o dorwyr diemwnt a pholishwyr, yn byw yn bennaf ar arfordir de Lloegr o amgylch Brighton. Ystyriwyd bod yr ardal hon yn agored i niwed gan y llywodraeth felly fe'u hadleoli i Bangor, lle ymunodd ffoaduriaid o'r Iseldiroedd a Gwlad Belg â nhw.

Photo of diamond inspectionSymudodd Louis Monnickendam ei fusnes caboli diemwnt o Antwerp i Brydain ym 1914. Yn 1940 symudodd i lawr cyntaf yr adeilad hwn – uwchben teilwra Montague Burton. Cafodd peiriannau eu symud yma o Brighton a'u cynnal drwy gydol y rhyfel gan y dyn lleol Jack Davies. Cafodd gweithrediadau diemwnt llai eu sefydlu yn Ffordd Farrar a ger Neuadd Penrhyn, hefyd ym Mae Colwyn.

Roedd Monnickendam yn cyflogi cyfanswm o 60 o bobl a chymerodd rai bechgyn lleol fel prentisiaid a ddaeth yn fedrus yn fuan. Roedd y staff yn gweithio 45 awr yr wythnos am 15 swllt. Neilltuwyd eu galwedigaeth (a oedd yn golygu eu bod yn cael eu cadw allan o'r lluoedd arfog) oherwydd bod eu masnach yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu diwydiant ac arfau. Mae'r llun yn dangos dyn yn archwilio diemwntau ym Mhrydain tua 1920. Nid yw'n hysbys bellach ym mha ffatri y tynnwyd y llun.

Yn 1941 dychwelodd Louis Monnickendam i Brighton a mynd ag wyth o'r prentisiaid gydag ef. Parhaodd diwydiant diemwnt Bangor wrth i Gerrit Wins gymryd drosodd y busnes a'i symud i'r Clwb Rhyddfrydol yn Llys Gwynedd. Roedd tua 90% o ddiamwntiau Prydain bryd hynny yn cael eu hallforio i'r Unol Daleithiau fel rhan o daliad am arfau, o dan y cytundeb prydles les-fenthyg.

TROEDNODIADAU: Atgofion personol

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno, a Hans Win. Hefyd i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL57 1PA    Gweld Map Lleoliad

Wartime in Llandudno Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button