Cyn Gaffi Morannedd, Maes y Môr, Criccieth
Ar yr olwg gyntaf ymddengys fod yr adeilad rhestredig Gradd II hwn o gyfnod Art Deco, cyn yr Ail Ryfel Byd. Fodd bynnag, fe'i hadeiladwyd ym 1954 yn arddull unigolyddol ei dylunydd, y pensaer Clough Williams Ellis. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei bentref mympwyol Portmeirion.
Mae gan adeilad y caffi siâp crwm nodedig, ffenestri o'r llawr i'r nenfwd a waliau cerrig trwchus. Mae'n darparu cyferbyniad diddorol â thyrau crwn y castell hynafol ar ben arall yr rhodfa. Mae glasbrintiau'r pensaer yn dangos y dylid bod wedi codi oriel arsylwi gwydr fach ar y top a bod mynedfa lawer mwy mawreddog wedi'i fwriadu yn wreiddiol. Fodd bynnag, aeth y prosiect i drafferthion ariannol ac ni chafodd ei wireddu'n llawn.
Un o'i berchnogion cynnar oedd Syr Billy Butlin. Byddai ymwelwyr yn dod i mewn ar fws o wersyll gwyliau Butlin gerllaw i fynychu Dawnsfeydd Te yma. Mae'n hawdd dychmygu'r dawnsfeydd yn eangder y lle, efallai gyda phlanhigion wedi'u gwasgaru o gwmpas a gweinyddesau wedi'u gwisgo mewn du gyda pinaffor gwyn a chapiau.
Ar ôl cyfnod y Butlin, cafodd yr adeilad ei rentu i wahanol denantiaid dros y blynyddoedd. Yn y 1960au, cyfarfu'r "Tender Trap Twist Club" yma, cyn symud i'r Neuadd Goffa. Mae'r dawnsfeydd hynny'n cael eu cofio’n felys gan bobl leol o oedran penodol!
Yn 2015 cymerodd Bwyty Dylan yr adeilad drosodd a chafodd ei adnewyddu'n helaeth. Gyda chymeradwyaeth Cadw, newidiwyd mynedfa'r adeilad i ddarparu rhywbeth mwy cydnaws â'r hyn a nodwyd yn wreiddiol ar y glasbrintiau, y gallwch eu gweld y tu mewn i'r bwyty.
Mae'r bwyty, sy'n arbenigo mewn bwyd môr lleol, yn cynnal digwyddiadau rheolaidd fel nosweithiau gwin a nosweithiau sinema, ac mae'n parhau â thraddodiad digwyddiad 'Miri Morannedd' bob mis Mehefin lle mae plant yn cymryd rhan mewn gweithdai sgiliau cerddoriaeth, celf a syrcas.
Gyda diolch i Robert Cadwalader, y mae ei baentiad 'Morannedd Nostalgia' i'w weld yma. Diolch hefyd i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad.
Cod post: LL52 0HU Gweld Map Lleoliad
![]() |
![]() ![]() |