Clwb goroeswr y Ddihangfa Fawr, Rhosneigr
Ar un adeg roedd Clwb Sandymount yn eiddo i Ken Rees, goroeswr y "Dihangfa Fawr" o wersyll carchar Stalag Luft III yr Almaen. Mae'r adeilad wrth ymyl Llwybr Arfordir Cymru ac erbyn hyn mae'n fwyty a bar Sandy Mount House.
Cafodd Ken Rees ei fagu ar fferm ei rieni y tu allan i Rhiwabon, ger Wrecsam. Roedd yn dweud celwydd am ei oedran a'i alwedigaeth i ymuno â'r RAF ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Cafodd ei anfon i sgwadron bomio Wellington. Ar un daith hyfforddi, enillodd y Rhingyll Rees fet trwy hedfan awyren fomio dan Bont Grog Menai.
Priododd ym mis Hydref 1942, y diwrnod ar ôl "parti hen lanc" a ddechreuodd yn ei hoff dafarn, y Trevor Arms ym Marford. Yn ddiweddarach y mis hwnnw roedd yn hedfan i ollwng ffrwydron magnetig oddi ar arfordir Norwy pan gafodd ei awyren ei saethu i lawr i fjord. Dihangodd ef a dau arall o'r criw o’r drylliad ond cawsant eu cipio yn fuan gan yr Almaenwyr. Ar ôl holi gan y Gestapo, symudwyd Rees a'i fordwywr, cyd-Gymro Gwyn Martin, ar y môr, tir ac awyr i Berlin ac yna i wersyll carcharorion rhyfel Stalag Luft III.
Stalag Luft III oedd y gwersyll lle'r twnelodd y carcharorion o dan ffens perimedr mewn ymgais am ryddid. Cafodd y stori ei hadrodd yn ddiweddarach yn y ffilm The Great Escape. Ken oedd un o'r twnelwyr ac roedd ar fin dianc pan gafodd y twnnel ei ddarganfod gan warchodwyr. Daliwyd yr 87 o garcharorion y Cynghreiriaid a ddihangodd, a llofruddiwyd 50 gan y Gestapo. Ym mis Mai 1945, ar ôl cael ei orfodi i orymdeithio o amgylch yr Almaen mewn amodau erchyll, rhyddhawyd Ken wrth i'r rhyfel yn Ewrop ddod i ben.
Ymddeolodd y Cadlywydd Adain Rees o'r RAF yn 1968. Ar ôl rhedeg swyddfa bost Bangor-ar-Dyfrdwy, ger Wrecsam, prynodd Clwb Sandymount yn 1972. Bu'n rhedeg y clwb am 10 mlynedd, ac ar ôl hynny bu ei fab Martin yn ei redeg am gyfnod mewn partneriaeth â Charlie Parson. Arhosodd Ken yn Rhosneigr hyd ei farwolaeth, yn 93 oed, ym mis Awst 2014.
Cafodd yr adeilad ei adnewyddu gan berchnogion newydd yn 2018 i ddod yn fwyty a bar tŷ traeth. Yn ystod pandemig Covid-19 yn 2020, sefydlodd rhai o'r staff elusen i helpu aelodau bregus o'r gymuned.
Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa y Ffrynt Cartref, Llandudno, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL64 5UX Gweld Map Lleoliad
![]() |
![]() ![]() |
TROEDNODIADAU: Mwy am Ken Rees
Cafodd Ken ei eni yn 1921 a mynychodd Ysgol Ramadeg Rhiwabon. Nid oedd yn academaidd iawn ond rhagorodd mewn chwaraeon, yn enwedig rygbi. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed a dilynodd brentisiaeth tair blynedd yn adran dillad Siop Adran Gorringe, Llundain, ond gadawodd ar ôl dwy flynedd oherwydd ei "ddiflastod llethol".
Yn 1938 cofrestrodd yng Ngholeg Amaethyddol Llysfasi, ger Rhuthun, i astudio ffermio. Galluogodd hyn iddo chwarae rygbi dros Wrecsam. Pan ddechreuodd y rhyfel, cafodd Ken ei atal gan swyddfa recriwtio'r RAF yng Nghaer gan ei fod yn rhy ifanc a hefyd am fod ei alwedigaeth, fel ffermwr, wedi'i neilltuo. Ta waeth, aeth i'r Amwythig y diwrnod canlynol, dweud celwydd am ei oedran a'i alwedigaeth, ac ymunodd â'r RAF.
Gobaith Ken oedd dod yn beilot ymladdwr ond cafodd ei bostio ar gwrs ar gyfer bomio. Hedfanodd Ken a'i griw sorties dros yr Almaen ac Ewrop nes iddynt gael eu hanfon i Malta, o ble y bomiwyd rheilffyrdd, dociau a meysydd awyr yng Ngogledd Affrica a de'r Eidal. Roedd Malta yn cael ei ymosod yn gyson gan luoedd awyr yr Almaen a'r Eidal, ac roedd bywyd Ken bob amser mewn perygl hyd yn oed pan nad oedd ar weithrediadau.
Ar ôl ei ddyletswydd ym Malta dychwelodd i'r DU i hyfforddi peilotiaid newydd ond ar ôl chwe mis roedd yn dyheu am ddychwelyd i weithredu. Gwirfoddolodd i ailymuno â gweithrediadau. Wrth ollwng ffrwydron magnetig oddi ar Norwy, saethwyd ei awyren i lawr a chwalodd i mewn i fjord. Cipiwyd Ken a'i holi gan y Gestapo, ac yn y pen draw carcharwyd yn Stalag Luft III, gwersyll i wŷr awyr a ddaliwyd.
Roedd Ken wedi priodi Mary Sinfield ym mis Hydref 1942. Cafodd ei brawd ei saethu gan gan griw awyr o'r Almaen tra'n disgyn o dan barasiwt o'i awyren ddrylliedig. Cymhellodd yr anfadwaith hwn i Ken i fod mor aflonyddgar â phosibl i'w garcharorion, ac yn aml cafodd ei roi mewn caethiwed unigol.
Helpodd i gloddio'r twnnel cyfrinachol o dan y ffens. Ar noson y "Dihangfa Fawr", roedd ar fin dringo'r ysgol allan pan ganodd ergyd, gan ddynodi bod y twnnel wedi ei ganfod. Rhedodd yn ôl i'r gwersyll ac ymunodd â chymrodyr i losgi dogfennau adnabod ffug cyn i'r gwarchodwyr gyrraedd.
Roedd ei yrfa rygbi wedi'r rhyfel yn cynnwys cyfnodau gyda Chymry Llundain (bu'n gapten yn 1953), Parc Penbedw, Swydd Gaer, yr RAF a'r Gwasanaethau Cyfun. Bu'n treialu dros Gymru ond gan iddo frifo’i fawd yn ddiweddar ni chafodd ei ddewis