Safle trychineb awyr adeg y rhyfel, Rhosneigr

theme page link buttonYn ystod yr Ail Ryfel Byd, collodd 11 o achubwyr a thri awyrennwr eu bywydau ger yma ar ôl i awyren o'r Awyrlu ddisgyn i'r môr. Gweler isod am eu manylion.

Golchodd stormydd annhymhorol Ynys Môn ar fore 28 Awst 1941. Fel arfer, ni fyddai awyrennau wedi hedfan mewn tywydd o'r fath, ond derbyniwyd adroddiadau yn RAF y Fali fod llong danfor o'r Almaen yn ymosod ar gonfoi llongau masnach y Cynghreiriaid.

Anfonodd Valley RAF Blackburn Botha gyda thri aelod o'r criw i archwilio’r ardal. Yn fuan ar ôl esgyn, tarodd yr awyren i'r môr yn agos at Traeth Crigyll (y traeth tywodlyd i'r gogledd o Rosneigr). Cychwynnwyd ymgais achub gan bentrefwyr lleol, personél RAF y Fali a milwyr Magnelaeth Brenhinol a leolwyd yng ngwersyll tanio Tŷ Croes gerllaw.

O'r traeth gellid gweld y criw awyr yn glynu wrth falurion yr awyren yn y dyfroedd garw. Lansiodd yr achubwyr dri chwch, ond roedd y tonnau mawr a'r chwydd cryf wedi eu suddo i gyd wedi'u hachosi gan wynt y de-orllewin. Yn y cyfamser roedd y criw awyr wedi blino'n lân yn a methu gallu glynu mwyach a chawsant eu golchi allan i'r môr.

Roedd y dioddefwyr lleol yn cynnwys gwylwyr y glannau, morwr masnachol ar wyliau a phlismon phentref Rhosneigr. Leslie Ford, a fu farw wrth geisio nofio i'r awyren stêm, oedd gyrrwr car staff Prif Swyddog RAF y Fali, a oedd wedi cyrraedd i gydlynu'r ymgyrch achub. Rhoddodd yr RNLI (Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Bad Achub) fedalau efydd ar ôl marwolaeth i'r holl ddioddefwyr.

Defnyddiodd dau fachgen 17 oed ar eu gwyliau, Derrick Baynham a John Wood, dingi hwylio i gyrraedd llongddrylliad yr awyren a helpu'r peilot blinedig (o'r Llu Awyr Pwylaidd) tuag at y lan. Fe wnaeth eu cwch droi drosodd ond achubwyd y bechgyn gan bobl eraill oedd ar eu gwyliau, a raffiodd eu hunain gyda'i gilydd. Dyfarnwyd Medal Sikorski i'r bechgyn gan y Brenin Sikorski, medalau arian gan yr RNLI ac chas sigaréts gan y Cadfridog Sikorski, Cadlywydd y lluoedd Pwylaidd.

Yn 1991 codwyd plac coffa i'r dioddefwyr y tu allan i orsaf dân Rhosneigr.

Gyda diolch i Adrian Hughes o Amgueddfa y Ffrynt Cartref, Llandudno, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Gweld Map Lleoliad  

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button


Victims of the Rhosneigr air tragedy


The aircrew

  • Dixon, Thomas Alexander, U/T Observer 1119294. Aged 20. RAF Volunteer Reserve. Son of Arthur W Dixon and Lydia Dixon of Dungannon. Buried at Drumcoo Cemetery, County Tyrone.
  • Glockler, Frederick Charles, Leading Aircraftman (Observer) 1376289. Aged 27. RAF Volunteer Reserve. Buried at Tottenham Cemetery, London. Son of Alexander and Elizabeth Glockler of Tottenham; husband of Stella Phyllis Glockler of Pencoed, Glamorgan.
  • Rosiewicz, Kazimierz Stefan, Plutonowy-Podchorazy (Platoon Cadet), Polish Air Force. Buried at St Mary’s cemetery, Holyhead.

Royal Artillery rescuers

  • Eaton, Reginald, Gunner 1832747. Aged 20. Buried at St Maelog’s churchyard, Llanfaelog.
  • Moger, Alfred William, Warrant Officer Class II (Battery Sergeant Major) 1062088. Aged 34. Buried at St Maelog’s churchyard, Llanfaelog.
  • Simons, Ronald Kenneth, Gunner. Aged 33. Commemorated on the Brookwood 1939-1945 Memorial, Surrey. Son of Albert and Agnes Simons; husband of Celia Simons.
  • Thornton, Clarence Herbert, Gunner 1832450. Aged 20. Buried at St Maelog’s churchyard, Llanfaelog. Husband of Vera Irene Mon Thornton of West Molesey, Surrey.
  • Wilkins, Sidney, Gunner 1832511. Aged 33. Buried at St Maelog’s churchyard, Llanfaelog. Husband of Lilian May Wilkins of Bow, London.
  • Whysall, Peter Tyrel, Second Lieutenant 145327. Aged 23. Buried at St Maelog’s churchyard, Llanfaelog. Son of Philip and Miriam Theresa Whysall of Kentish Town, London.

RAF rescuers

  • Bannister, Donald William, Aircraftman 1st Class 819139. Aged 20. RAF (Auxiliary Air Force) 616 Squadron. Buried at Gap Road cemetery, Wimbledon, London. Son of Ernest James Bannister and Ethel Rosetta Bannister of Wimbledon.
  • Ford, Leslie Arthur, Leading Aircraftman 845761. Aged 29. RAF 615 Squadron. Buried at Green Lane cemetery, Farnham, Surrey. Son of Eli Arthur William and Edith May Ford; husband of Katharine Anne Ford of Stoneleigh.

Other rescuers

  • Arthur, George Cledwyn, Police Constable. Aged 29. Of Amlwch.
  • Jones, Evan, Auxiliary Coastguardsman. HM Coastguard. Aged 39. Buried at St Gwenfaen’s churchyard, Rhoscolyn.
  • Owen, Arthur John, Second Officer, Merchant Navy. Born in Rhosneigr in 1905.