Hen chwarel Farmor Mona, ger Rhoscolyn
Cafodd Marmor Mona ei gloddio ar un adeg ger Fferm Pwllpillo, i'r de-orllewin o'r gornel hon ar Lwybr Arfordir Cymru, a lleoliadau eraill ar Ynys Môn. Defnyddiwyd rhai ar gyfer bwrdd ar gyfer cartref alltud Napoleon.
Roedd Fferm Pwllpilo yn 94 erw, "wedi'i gau’n dda â waliau cerrig", pan arwerthwyd yn 1808. Yn ddiweddarach roedd yn enwog am ei ddefaid a'i geffylau. Yn 1878 daeth prynwyr o mor bell i ffwrdd â Limerick (Iwerddon) i werthiant stoc y fferm o geffylau, defaid a gwartheg "hynod ddisgynnol a godidog". Roedd y stoc yn cynnwys helwyr, cobiau, ceffylau cerbydau a chert a cheffylau fferm.
Daeth Mona Marble o sawl safle yng ngogledd Ynys Môn, gan gynnwys chwareli ym Mhwllpillo ac ar stad Bodior, i'r de-ddwyrain o fan hyn. Mae'r graig yn eithaf meddal ac felly'n hawdd ei weithio. Fe'i cloddiwyd ar gyfer defnydd addurniadol. Mae'r llun, trwy garedigrwydd Campbell & Archard Ltd, yn dangos cloc mantell o tua 1818 mewn cas o Farmor Mona.
Mae Marmor Mona yn cyfeirio at graig fetamorffig sgarff faen (serpentinite) gwyrddlas neu goch, yn ôl pob tebyg o Oes Cambria. Mae'n cynnwys silicadau haearn a magnesiwm hydradol yn bennaf, ac ni ddylid ei gymysgu â marmor Penmon (a elwir yn aml yn Farmor Môn), a calchfaen Carbonifferaidd sy'n dal i gael ei gloddio heddiw.
Rhoddwyd hwb i'r farchnad ar gyfer Marmor Mona gan y rhyfeloedd Napoleonaidd, a oedd yn ei gwneud hi'n anodd cael marmor o gyfandir Ewrop. Yn 1806 prynodd y cerflunydd a'r gwneuthurwr cabinet George Bullock, oedd yn byw yn Lerpwl ar y pryd, chwarel yn Fferm Maes Mawr, Llanfechell, am £1,000.
Daeth y rhyfeloedd i ben pan orchfygwyd Napoleon ym Mrwydr Waterloo ym 1815. Cafodd arweinydd Ffrainc ei alltudio i ynys anghysbell St Helena a chomisiynwyd George Bullock i wneud dodrefn ar gyfer ei breswylfa newydd yno. Roedd y dodrefn yn cynnwys bwrdd a fewnosodwyd gyda Marmor Mona, a dywedwyd gan hanesydd yn 1832 ei fod wedi dod o Bodior. Mae'r bwrdd yn dal yn y tŷ heddiw.
Enw'r lle:
Ystyr yr elfen gyntaf yw 'pwll'. Yr ail elfen yw'r enw Pillo, er nad oes neb yn gwybod pwy oedd y person hwnnw. Digwydd yr enw personol Pyll yng nghofnodion Ynys Môn o'r 12g ymlaen. Mae'n debyg mai ffurf anwes o'r enw hwnnw oedd Pyllo, cymharer a ‘Deio’ am Dafydd.
Gyda diolch i Dr Jana Horak a Michael Statham o Fforwm Cerrig Cymru. Hefyd i'r Athro Hywel Wyn Owen o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am wybodaeth am enwau lleoedd, ac i Paul Archard o Campbell & Archard Ltd. Cyfieithiad gan Gwyndaf Hughes
![]() |
![]() ![]() |