Hen Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Bala

button-theme-bala-700Anarferol ydoedd i dref fechan fel y Bala gael ysgol i fechgyn wedi ei hen sefydlu. Sefydlwyd yr ysgol hon o ganlyniad i ewyllys Edmund Meyrick, Ucheldre, Corwen, a fu farw yn 1712. Rheolwyd hi gan Goleg yr Iesu, Rhydychen.

Portrait of Owen Morgan EdwardsCodwyd adeilad presennol yr ysgol yn 1851, fel y dangosir gan yr arysgrif Lladin uwchben y drws ffrynt. Mae arfbais Coleg yr Iesu i'w weld ar un o'r waliau. Yn ddiweddarach daeth yn Ysgol Ramadeg y Sir i fechgyn. Daeth yr adeilad wedyn yn fwyty a gwaith argraffu papur bro Y Cyfnod.

Un o ddisgyblion yr ysgol oedd Tom Ellis AS, y mae ei gerflun ar Stryd Fawr y Bala. Mynychodd yr ysgol yr un pryd ag Owen Morgan Edwards, a urddwyd yn farchog yn 1916. Roedd OM Edwards (llun uchaf) yn llenor, hanesydd, prif arolygydd ysgolion Cymru ac, am gyfnod byr, yn AS. Dechreuodd neu cyhoeddodd sawl cyfnodolyn gan gynnwys Cymru'r Plant, a oedd yn galluogi cenedlaethau o blant i fwynhau darllen yn Gymraeg.

Portrait of Rev Father John Hugh JonesEnillodd y gwyddonydd John Castell Evans (1844-1909) ysgoloriaeth i'r ysgol ramadeg yn wyth oed. Cynhaliodd ymchwil pwysig ar brosesu mwyn, cynorthwyodd i wella addysg dechnegol ym Mhrydain ac etholwyd ef yn Gymrawd y Sefydliad Cemeg yn 1888. 

Hen fachgen nodedig arall oedd John Hugh Jones (1843-1910) – llun is. Methodist oedd ei fam (wyres i'r pregethwr Methodistaidd Dafydd Cadwaladr) a'i dad Anglican, ond daeth yn Gatholig Rufeinig yn 1871 tra'n astudio yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Agorodd y Parch Dad Jones ysgol eglwys yng Nghaernarfon a dysgodd y plant ei hun, gan nad oedd arian i gyflogi meistr. Cyfieithodd emynau Catholig, gweddïau a chatecism i'r Gymraeg. Bu'n diwtor Cymraeg yng Ngholeg y Santes Fair, Treffynnon, Sir y Fflint, am ei ddwy flynedd olaf, a chladdwyd ef ym mynachlog Pantasaph.

Diolch i Hywel Davies am y cyfieithiad

Cod post: LL23 7EH    Map

button-tour-bala-700 previous page in tournext page in tour