Wagen letyol Rheilffordd Padarn
Un o lawer o arddangosion yn Amgueddfa Rheilffordd Gul yn Tywyn yw wagen letyol (host) o Reilffordd Padarn. Adeiladwyd y rheilffordd hon (a ddisgrifir ar y dudalen HiPoint hon) yn 1843 i gario llechi o chwareli ger Llanberis i'r doc yn Y Felinheli. Roedd y rheiliau yn 1.2m (4 troedfedd) ar wahân, ddwywaith lled y wagenni a ddaeth â'r llechi i lawr ochrau'r mynyddoedd o'r chwareli.
Llwythwyd y wagenni llai ar wagenni cludo neu "letya", pedwar ar y tro, yn Gilfach Ddu a'u cludo ar Reilffordd Padarn i Benscoins, ger Y Felinheli. Yno cawsant eu tynnu o'r wagenni cynnal a'u hanfon i lawr inclein arall a weithiwyd â rhaff i'r harbwr, lle dadlwythwyd y llechi i longau neu wagenni rheilffordd prif linell.
Caeodd Rheilffordd Padarn yn 1961. Cafodd y rhan fwyaf o'i offer ei sgrapio, ond goroesodd y wagen letyol hon. Mae'r llun uchod (trwy garedigrwydd David J Mitchell) yn dangos sut y llwythwyd y wagenni bach ar y wagen letyol.
Hefyd yn yr amgueddfa mae locomotif tanc 0-4-0 anarferol o fragdy Guinness, Dulyn (ar y chwith yn y llun, yn fuan ar ôl iddo gyrraedd Tywyn). Fe'i hadeiladwyd yn Nulyn gan William Spence & Company ym 1895, i ddyluniad gan Samuel Geoghehan, prif beiriannydd y bragdy o 1875. Roedd gan y bragdy rwydwaith mawr o reilffyrdd cul ar sawl lefel. Gallai'r traciau isaf symud mwy na 8,000 o gasgenni y dydd i'r seidins rheilffordd prif linell, i’r cei ar y Liffey neu'r gwaith golchi. Roedd y trenau lefel ganol yn gwasanaethu'r siop malt a'r bragau, tra bod y lefel uchaf yn symud brag a hopys i'r bragdy.
Hefyd i'w weld mae'r Dot bach (yn y llun ar y dde), a adeiladwyd ym 1887 i symud cydrannau o amgylch ffatri enfawr yr adeiladwr locomotifau Beyer Peacock yn Gorton, Manceinion. Cafodd ei gynhyrchion eu hallforio ledled y byd ac maent yn cynnwys locomotifau Garratt sydd bellach yn cael eu defnyddio ar Reilffordd Ucheldir Cymru.
Mae'r amgueddfa hefyd yn cynnwys ail-greu rhan o stydi Wilbert Awdry, lle ysgrifennodd ei straeon rheilffordd sydd bellach yn gyfarwydd fel Thomas the Tank Engine & Friends. Bu'n wirfoddolwr cynnar ar Reilffordd Tal-y-llyn, a seiliodd rai o'i straeon ar y rheilffordd. Mae'r arddangosfa'n cynnwys ei ddodrefn a'i fodelau gwreiddiol a wnaeth o'i gymeriadau.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL36 9EY
Gwefan Amgueddfa Rheilffordd Gul
View Narrow Gauge Railway Museum HistoryPoints.org in a larger map