Wagen rwbel chwarel, Llanberis

sign-out

Ail ddefnyddiwyd y wagen rheilffordd fach gyntefig hon yn wely blodau tu allan i hen Westy'r Castell (SPAR bellach) i gario llechi gwastraff. Mae'n anodd credu mai'r tomenni helaeth o lechi y gallwch eu gweld ar draws y dyffryn o Llanberis oedd gwaith bôn braich efo wagenni fel hyn!

Dim ond tua 2% o'r graig o chwareli Cymru oedd yn addas i'w hollti'n lechi toi tenau, gwydn. Bu'n rhaid tynnu'r 98% arall allan i gael mynediad at y llechen werthfawr. Defnyddiwyd rhai at ddibenion eraill, megis waliau, ffensys, lloriau a cherrig beddi. Cafodd y rhan fwyaf ei thaflu mor agos â phosibl at y chwarel, mewn mannau lle na fyddai'r gwastraff yn ymyrryd â gweithrediadau presennol neu yn y dyfodol. 

Sylwch mai dim ond tair ochr sydd gan y wagen hon. Cafodd y llechen ei thaflu o'r pen agored i'r domen wastraff. Weithiau gwnaed hyn trwy hyrddio'r wagen ar hyd trac. Llithrodd allan wna’r llechi pan fyddai’r wagen taro’n sydyn yn erbyn bloc ar y trac. Roedd rhai wagenni rwbel gyda colfach i’w hwyluso ar gyfer tipio. 

Mae gan y wagen hwn stribedi metel ym mhob cornel sy'n ymwthio uwchben y corff. Roedd y math hwn yn hysbys i chwarelwyr fel "wagan clustiau" a gellid ei gludo trwy raff ffordd yn yr awyr dros agendor. Roedd y rhaffau yn defnyddio'r un egwyddor â lifftiau cadeiriau a cheir cebl. Cyfeiriodd chwarelwyr atynt fel "Blondins", ar ôl y cerddwr rhaff  Ffrengig enwog, sef Charles Blondin (1824-1897). 

Gallwch weld wagen rwbel wedi'i hongian o Blondin yn chwarel Vivian, ger Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Mae gan yr amgueddfa, mynediad rhad ac am ddim, lawer o arddangosiadau am reilffyrdd y chwarel. 

Goroesodd enghraifft gynnar o'r math hwn o wagen chwarel dros 160 mlynedd yn yr awyr agored ar yr Wyddfa ac mae bellach yn cael ei harddangos ym mhen deheuol Llanberis.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL55 4SU    Gweld Map Lleoliad

Gwefan Amgueddfa Lechi Cymru