Safle terfynfa fferi, Caernarfon
Safle terfynfa fferi, Caernarfon
Yma roedd terfynell ddeheuol y llwybr fferi i Dal-y-foel, Ynys Môn, tan 1954. Roedd y llwybr bron yn union i'r gogledd o Gaernarfon, gan groesi'r Fenai yn groeslinol.
I gymunedau ar y lan arall, Caernarfon oedd y dref leol sefydledig ar gyfer marchnadoedd, addysg, gwasanaethau a hyd yn oed y wyrcws, nes bod gwasanaethau bws yn gwella mynediad i Langefni.
Bu fferi yn cysylltu Caernarfon â thri lleoliad ar Ynys Môn am ganrifoedd lawer. Roedd Afon Menai yn hynod o anodd i forwyr oherwydd bod y llanw’n codi ac yn disgyn o bob pen ar adegau ychydig yn wahanol, gan greu cerrynt croes. Dioddefodd llongau fferi Caernarfon lawer o ddamweiniau, gan gynnwys boddi 30 o bobl ar fferi Tal-y-foel ym 1723.
Cafodd cwch fferi ei foddi ger Caernarfon yn 1820 wrth gludo 22 o deithwyr, merched yn bennaf yn mynd i farchnad Caernarfon. Dim ond un a oroesodd. Roedd Pont Menai, a agorwyd ym 1826, yn golygu bod teithiau ffordd yn bosibl rhwng Caernarfon a’r cymunedau gyferbyn, ond roedd y daith yn hir iawn.
Ym 1923 derbyniodd llwybr Tal-y-foel stemar badlo newydd, o’r enw Menna, a weithredodd yn ddiweddarach ym Mhenfro – gweler ein tudalen we harbwr Neyland am lun ohoni. Cafodd Menna ei dadleoli ym 1929 gan fferi modur, a gofrestrwyd ar gyfer 100 o deithwyr, ac a feddianwyd gan y llywodraeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi hyn, defnyddiwyd fferi lai, er bod y galw am fferi Tal-y-Foel wedi cynyddu oherwydd bod dogni petrol yn effeithio ar drafnidiaeth ffyrdd.
Roedd “fferi Foel” wedi bod mewn cyflwr ariannol gwael ers y 1870au, pan gymerodd Cyngor Tref Caernarfon gyfrifoldeb amdani er gwaethaf y ffaith bod ei gweithredwr blaenorol, a oedd wedi colli £2,000 arni, wedi rhybuddio na fyddai’n talu. Yn 1890 nid oedd y gwasanaeth ond bob dwy awr.
Ym 1953 roedd y fferi’n gwneud colled yn cludo 8,481 o deithwyr, o gymharu â 41,254 yn 1941. Roedd y daith fferi olaf ar 31 Gorffennaf 1954.
Gyda diolch i Clive James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon. Ymhlith y ffynonellau mae ‘Fferiau i Fôn/Fferïau i Fôn’ gan Thomas Meirion Hughes, 1996
Cod post: LL55 1SR Map
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |