Cymraeg Site of Blackfriars' Friary, Bute Park

Safle Brodordy'r Brodyr Buon, Parc Bute
Dau frodordy yn unig a sefydlodd y Dominiciaid yng Nghymru, ac roedd un ohonynt yma. Gallwch weld ôl troed cyfan y prif adeilad o hyd. Prin fod haneswyr yn cael cyfle i weld cofnod mor gyflawn o faint brodordy canoloesol. Mae'r safle’n Heneb Gofrestredig a chanddo orffennol difyr iawn – mae rhagor o wybodaeth am y byrddau gerllaw.
Sefydlwyd yr urdd gan St Dominic ym 1216. Cawsant eu galw’n “frodyr duon” am eu bod yn gwisgo mantell ddu â chwfl arni. Sefydlwyd brodordy Caerdydd ym 1256. Roedd ganddo glafdy a ffynnon hefyd.

Safle’r brodordy ar ôl ei adfer fel gardd, dyddiedig 1890au
Ym 1536, gorchmynnodd y Senedd i fynachlogydd, abatai a thai crefyddol eraill yng Nghymru a Lloegr. Diddymwyd y Mynachlogydd yn dilyn penderfyniad Harri’r VIII i dorri teyrngarwch crefyddol ei wlad i’r Pab yn Rhufain. Trosglwyddwyd Brodordy’r Brodyr Duon yng Nghaerdydd i’r wladwriaeth ym 1538, a chafodd yr adeiladau eu dymchwel yn fuan wedi hynny.
Diflannodd y sylfeini dan bridd a llystyfiant ond fe’u cloddiwyd gan archeolegwyr ym 1887 a 1897, gan fod trydydd Ardalydd Bute am i’r gweddillion gael eu harchwilio a’u cadw. Gwnaeth yr un fath ag adfeilion ar ei eiddo yn yr Alban, gan gynnwys abatai Melrose a Sweetheart, a safle mynachlog y Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd. Cliriwyd y safle yn y 1960au, ond cofnodir ei fodolaeth yn yr enw Heol y Brodyr Llwydion.
Ar ôl y gwaith cloddio, rhoddwyd gardd dros olion Brodordy’r Brodyr Duon. Gorchuddiwyd y llawr â theiliau newydd, yn seiliedig ar ddyluniadau’r darnau a welwyd yn y teiliau gwreiddiol. Gwelir y nodwedd ar ei newydd wedd yn y ffotograff hwn gan Gyngor Sir Caerdydd, diolch i Ystâd Mount Stuart. Yn ddiweddarach, symudwyd y teiliau Fictoraidd i’w cadw’n ddiogel, ond gallwch bellach weld rhai ohonynt ym Mhorthdy'r Gorllewin.
Edrychwch am fainc sy’n edrych dros yr adfail a osodwyd yn 2012, gydag arysgrif o enwau’r brodyr hysbys olaf. Mae hefyd ddelweddau o arfbais y brodordy, a rhai o’r arteffactau a achubwyd yma yn ystod gwaith cloddio archeolegol y 19eg ganrif.
I’r gogledd o sylfeini’r brodordy, plannwyd darn o goetir yma rywbryd ar ôl 1824. Coed yr Hen Ŵr oedd enw’r coetir erbyn y 1860au. Cred haneswyr fod gweddillion eraill o’r brodordy o dan y coed.
I barhau â thaith Parc Bute, dilynwch y llwybr rydych arno drwy’r coetir, neu ewch nôl a dilynwch y llwybr wrth y borderi blodau. Chwiliwch am y côd QR nesaf ar bostyn cornel blaen Caban yr Haf. | ![]() |