Safle gorsaf reilffordd Caernarfon
Safle gorsaf reilffordd Caernarfon
Mae archfarchnad Morrisons ar safle hen orsaf reilffordd Caernarfon a’r seidins nwyddau.
Defnyddich dŵr Eglwys Crist i leoli’r olygfa o’r awyr gyda Casgliad Aerofilms o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Mae platfformau ac adeiladau'r orsaf i'r chwith o'r eglwys.
Ar ochr dde'r eglwys mae blwch signal a sied nwyddau ar gyfer trosglwyddo cargo. Byddai’r trenau yn teithio drwy ganol y dref i Afonwen (ger Porthmadog) a Llanberis, gan fynd heibio i safle’r orsaf reilffordd gul heddiw. Roedd y seidins ger y lan ar lefel is, gyda'r trac yn parhau i ddepo Shell-Mex a BP yn Noc Fictoria.
Agorodd yr orsaf ym mis Gorffennaf 1852 fel terfynfa lein y rheilffordd o Gaer i Gaergybi. Yn fuan ar ôl y rheilffordd gael ei hymestyn drwy’r dref, cafwyd damwain angheuol yn 1871 – gan fod yr orsaf dros dro dan reolaeth clerc tocynnau 17 oed!
Rhoddodd y clerc awdurdod i drên i Lanberis adael oherwydd bod yr orsaf-feistr Joseph Evans a'r porthor oddi ar ddyletswydd. Pan chwibanodd gyrrwr yr injan, rhoddodd y signalwr James Partington ganiatâd i adael, ar ôl anghofio bod trên arall yn troi yn ôl i'r orsaf o Turf Square. Lladdodd y gwrthdrawiad y porthor John Evans, mab y Gorsaf-feistr. Cafodd James ei gyhuddo o ddynladdiad ond fe’i cafwyd yn ddieuog, dywedodd y barnwr ei bod yn ymddangos mai ef oedd yr unig berson a oedd yn gwneud ei ddyletswydd pan ddigwyddodd y ddamwain.
Ehangwyd yr orsaf a’r seidins ym 1894. Roedd y London & North Western Railway yn rhedeg trenau arbennig o Dde Cymru i Gaernarfon ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno.
Ym 1911 roedd angen dau blatfform dros dro ar gyfer y torfeydd oedd yn dod i’r dref ar gyfer seremoni arwisgo Tywysog Cymru. Daeth y tywysog ei hun i lawr yng ngorsaf Griffiths Crossing.
Collodd Caernarfon ei drenau teithwyr i Afonwen (ger Porthmadog) yn 1964 a'r rhai hynny i Fangor ym mis Ionawr 1970. Ailagorodd y lein o Fangor dros dro ychydig fisoedd yn ddiweddarach, er mwyn i lwyth o Fôr Iwerddon gael ei gludo i Gaernarfon ar ôl i dân Pont Britannia gau’r rheilffordd i Gaergybi. Erbyn heddiw mae llawer o'r trac bellach yn lwybr di-draffig.
Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad
Cod post: LL55 1BA Map
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |