Safle Plas Puleston, Caernarfon
Fe wnaeth plasty o'r enw Plas Puleston feddiannu llawer o ochr orllewinol Stryd y Plas am ganrifoedd. Yn ôl y chwedl leol, ym 1284 ganwyd y Brenin Edward I, (Brenin Edward II y dyfodol) yn Plas Puleston a’i gyflwyno yng Nghastell Caernarfon, a oedd yn dal i fod yn safle adeiladu ar y pryd.
Yn wreiddiol, y plasty oedd cartref Caernarfon i Syr Roger de Puleston. Roedd yn ffrind ac yn was i Edward I, a roddodd Ystâd Emral ger Wrecsam iddo yn y 1280au. Penododd Edward Roger i oruchwylio gweinyddiaeth ariannol Gogledd Cymru. Roedd hyn yn cynnwys casglu trethi gan bobl Cymru ar gyfradd uwch nag a osodwyd yn Lloegr, gan wneud Roger yn un o'r dynion mwyaf amhobloagaidd yn y rhanbarth!
Cafodd Roger ei grogi ym 1294 pan gipiwyd tref gaerog Caernarfon gan wrthryfelwyr dan arweiniad Madog Ap Llywelyn, a alwodd ei hun yn Dywysog Cymru ac a ddisgynnodd o Owain Gwynedd (brenin Gwynedde yn y 12fed ganrif). Defnyddiodd y gwrthryfelwyr bren o flaen Plas Puleston ar gyfer dienyddiad Roger, yn ôl yr hanesydd lleol W H Jones yn yr 1880au.
Roedd Plass Puleston yn adeilad hir, isel gyda thri simnai enfawr yn y cefn. Cafodd y llawr isaf cryf ei adeiladu mewn carreg. Roedd y rhan uchaf gyda ffrâm bren oedd yn ymestyn drosodd i’r stryd. Ar y blaen arddangoswyd llew coch ar gefndir glas. Roedd tafarn o'r enw The Red Lion yn un o sawl adeilad a feddiannodd safle Plas Puleston yn ddiweddarach.
Roedd aelodau o deulu Puleston yn ddylanwadol am ganrifoedd lawer. Roedd Syr John Henry Puleston o Ruthin yn AS Devonport, Plymouth, pan ymwelodd â Chaernarfon ym 1888 a chyflwynwyd bwrdd derw bach hynafol iddo o'r hen Plas Puleston. Gallwch weld ei bortread ar ein tudalen am baentiadau yn Sefydliad Caernarfon.
Cod Post: LL55 1RR Gweld Map Lleoliad
![]() |
![]() ![]() |