Safle gwersyll y fyddin, Tonfanau
Safle gwersyll y fyddin, Tonfanau
Ar un adeg roedd gan y fyddin wersyll enfawr ar y tir bob ochr i'r rheilffordd yn Nhonfanau. Gallai ddarparu ar gyfer bron cymaint o bobl â phoblogaeth Tywyn gerllaw! Ei ddefnydd olaf oedd ar gyfer ffoaduriaid o Uganda.
Mae'r lluniau o'r awyr, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y gwersyll ym 1940 (pan gafodd ei ehangu) ac ym 1942. Mae’r llun o filwyr yn y gwersyll trwy garedigrwydd archifau Michael Rickard.
Sefydlwyd gwersyll Tonfanau ym 1937 wrth i’r awdurdoau ragweld yr Ail Ryfel Byd. Hyfforddwyd gynwyr gwrth-awyrennau yma, gan danio at dargedau a dynnwyd gan awyrennau o faes awyr Morfa (RAF Towyn). Cefnogwyd y gynwyr magnelau gan grwpiau a ddaeth o wyth catrawd a chorfflu arall o leiaf, gan gynnwys y Peirianwyr Brenhinol, yr Heddlu Milwrol, swyddogion cadet a menywod y Gwasanaeth Tiriogaethol Ategol.
Roedd y gwersyll yn ddigon anghysbell i gyfiawnhau buddsoddiad mewn 260 o flociau llety (o frics yn bennaf), ysbyty, dau is-orsaf drydan, tair ystafell fwyta 600-sedd a theatr 1,000-sedd. Roedd 10 erw o gaeau chwaraeon ar gyfer pêl-droed, criced, hoci, rhedeg a thenis. Gellid lletya hyd at 1,500 o filwyr. Roedd gwasanaethu'r gwersyll yn darparu gwaith i bobl a busnesau lleol.
Ar ôl i'r Natsïaid feddiannu Ffrainc ym 1940, paratodd Prydain am ymgais Almaenig i lifo i’r wlad, o bosibl trwy arfordir Cymru. Am y ddwy flynedd nesaf, roedd gwersyll Tonfanau yn barod i newid o hyfforddiant i amddiffyn rheng flaen petai angen.
Ar ôl y rhyfel, cafodd dynion ifanc ar Wasanaeth Cenedlaethol eu danfon i Donfanau ar gyfer hyfforddiant gwrth-awyrennau. Daeth y Gatrawd Gwrth-Awyrennau Ysgafn i Donfanau ym 1948, mewn ymateb i densiynau cynyddol yn Asia a arweiniodd at Ryfel Corea ym 1950. Fe'i lleolwyd yma tan 1958. Hyfforddwyd milwyr wrth gefn awyr yn Nhonfanau a Morfa hefyd.
Caeodd y maes tanio ym 1958 fel rhan o ostyngiad mawr mewn unedau gynnau gwrth-awyrennau. Ym 1959 cychwynnodd hyfforddiant yn Nhonfanau i fechgyn rhwng 15 a 17.5 oed yng Nghatrawd yr Arweinwyr Iau ‘All Arms’. Fe'u paratôdd i ddod yn swyddogion heb gomisiwn.
Caeodd yr awdurdodau milwrol y gwersyll ym 1965. Ailagorodd y gwersyll ym 1972 i gynnal 1,500 o ffoaduriaid ar ôl i'r unben Idi Amin ddiarddel y boblogaeth Asiaidd sefydledig o Uganda.
Gyda diolch i Quentin Deakin, o Gymdeithas Hanes Tywyn a’r Cylch, archifau Michael Rickard a Llywodraeth Cymru
Cod post: LL36 8LP Map
![]() |
![]() ![]() |