Safle ficerdy Fictoraidd, Pwllheli

button-theme-crimeSafle ficerdy Fictoraidd, Pwllheli

Yma y safai ficerdy Pwllheli yn oes Fictoria. Yn y 1880au wynebodd y ficer nifer o brotestiadau ynghylch y degwm.

Codwyd eglwys y plwyf - Sant Pedr - yn y 1830au ar gyfer poblogaeth y dref a oedd yn cynyddu. Bu'r naill ficer ar ôl y llall yn byw mewn mannau gwahanol hyd oni fu i dŷ ar y safle hwn gael ei brynu i fod yn ficerdy ym 1855. Adeiladwyd y tŷ tua 1828 ar gyfer y cyfreithiwr lleol, David Williams. Yn ddiweddarach, ef oedd perchen  Castell Deudraeth (sydd yn awr yn rhan o bentref Eidalaidd Portmeirion), a daeth David Williams yn A.S. Rhyddfrydol Meirionnydd ym 1868.

Cafodd y tŷ ei alw ag enwau gwahanol, gan gynnwys Tŷ Gwyrdd, Tŷ Glas a Thŷ Brith. Y ficer cyntaf i fyw yma oedd y Parchg. Thomas Jones, gŵr a oedd wedi graddio yng Nghaergrawnt. Cafodd ei lyfr Welsh Tune and Chant Book, a ymddangosodd ym 1858, ei ail-argraffu niferoedd o weithiau.

Yn ystod y1880au, dechreuodd pobl a oedd yn addoli mewn capeli Anghydffurfiol wrthryfela yn erbyn talu'r degwm – trethi hynafol at gynnal Eglwys Loegr. Roedd rhai gweinidogion Anghydffurfiol yn dadlau yn ardal Pwllheli fod yr Eglwys yn estron ac nad yr "hen Eglwys Gymreig" mohoni..

Ym 1887, gwrthododd amryw o amaethwyr yr ardal dalu'r degwm. Er iddynt gytuno i sefyll yn gytun i'w amddiffyn, gwelodd rhai yn dda i'w dalu. Cawsant hwy eu disgrifio fel "bradwyr" gan un a ysgrifennodd i bapur newydd gan honni fod un amaethwr wedi ceisio gwneud y taliad yn ddirgel. Yng Ngorffennaf sefydlwyd cronfa amddiffyn ym Mhwllheli o weld fod gweithredu cyfreithiol yn debyg o ddigwydd.

Roedd yr anufudd-dod sifil hwn, a ddigwyddodd mewn llawer rhan o Gymru, yn cael ei adnabod fel Rhyfel y Degwm. Ym 1888, anfonodd Y Parchg. John Jones, ficer Pwllheli, feiliaid i hawlio eiddo o'r ffermydd. Adroddwyd ym 1890, fod rhai o ddyledion y degwm yn ardal Pwllheli yn dal heb gael ei dalu.

Cafodd y ficerdy ei newid yn yr 20fed ganrif am yr adeilad presennol, y mae llawer o drigolion y dref yn ei gofio fel y siop Woolworths. Bellasch y mae'n gartref i'r Original Factory Shop.

Gyda diolch i’r Parch Ioan W Gruffydd

Cod post: LL53 5RR    Map

button_tour_rebels-E Navigation previous buttonNavigation next button