Cyn-Ysgol Brydeinig, Dinorwig

Old photo of class at Dinorwig schoolMae Lodge Dinorwig yn meddiannu'r hen Ysgol Brydeinig, lle anfonodd cenedlaethau o deuluoedd chwarelyddol Anghydffurfiol eu plant.

Ar ddechrau'r 19g sefydlwyd Ysgol Sul Anghydffurfiol yn Fachwen gerllaw. Cynyddodd pwysau ar blant lleol i dderbyn eu haddysg i gyd mewn Ysgol Brydeinig barhaol (neu Ysgol Frythonig), a agorodd yn y pen draw yn 1844 gyda chymorth John Phillips. Roedd yn hanu o Geredigion ac wedi astudio ym Mhrifysgol Caeredin. Daeth yn weinidog Methodistaidd yn 1837. Wedi ei bostio i Fangor, gweithiodd yn frwdfrydig i sefydlu Ysgolion Prydeinig fel dewisiadau amgen i Ysgolion Cenedlaethol yr Anglicaniaid.

Ymfudodd rhai o ddisgyblion ysgol Dinorwig i'r UDA. Bu Thomas L Williams o Hastings-on-Hudson, Talaith Efrog Newydd, yn hel atgofion yn 1918 am yr elyniaeth rhwng plant ysgol Dinorwig ac ysgol Fachwen.

Roedd mwy o fechgyn yn Dinorwig felly’n rhagori mewn ymladd peli eira. Un diwrnod cawsant eu harwain gan athro, a gafodd ei daro gan bêl o eira caled a chywasgedig oddi ar y llwybr troed. Doedd yr athro ddim yn gallu dal y bachgen oedd wedi taflu'r pelen eira ond fe ddechrau curo Thomas, fel cynrychiolydd criw Fachwen. Sylweddolodd Thomas y gallai gael y gorau o'r dyn. Ar ôl rhoi cweir i'r athro, cafodd ei sefydlu fel bwli’r ysgol, teitl a ymhyfrydai ynddo.

Old photo of children being taught in Dinorwig school

Roedd Thomas hefyd yn cofio'r te parti blynyddol. Dan arweiniad band Llanrug, byddai'r plant yn cerdded i Blue Peris, cartref goruchwyliwr y chwarel John Davies, lle cawsant losin neu afalau. Yna ymwelon nhw â'r meddyg chwarel Thomas Hughes yn Hafoty (bu'n byw yno 1875-1890) am fwy o fyrbrydau, ac yna i Bron Elidir, cartref y stiward chwarel William Parry. Yn ôl yn yr ysgol, roedden nhw'n llawn bara brith a the. 

Yn ddiweddarach Humphrey Evans oedd y prifathro. Roedd yn gyfaill i'r gweinidog Methodistaidd dall John Puleston Jones. Yn ôl bywgraffydd y gweinidog, cerddodd y pâr 76km (47 milltir) o Dinorwig i'r Bala, trwy fynyddoedd Eryri, ar ddiwrnod poeth o haf! Yn ei seremoni ymadael yma yn 1905, derbyniodd Humphrey gadwyn aur gan gynulleidfa'r capel a beibl a llyfr emyn gan ei ddisgyblion Ysgol Sul.

Arweiniodd cau'r chwarel lechi yn 1969 at fwy o deuluoedd yn symud i ffwrdd, a chaeodd yr ysgol. Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol gyda meithrinfa. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys codi pwysau ac ymarfer côr. Roedd yn wag am tua degawd cyn ei brynu yn 2014 a'i adnewyddu. Agorodd fel caffi a hostel Dinorwig Lodge ym mis Awst 2015 – gweler y ddolen wefan isod.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL55 3EY    Gweld Map Lleoliad

Gwefan Lodge Dinorwig

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button
button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour