Y Cyn Eglwys Crist, Caernarfon
Y Cyn Eglwys Crist, Caernarfon
O’i dŵr uchel roedd yr eglwys yma’n amlwg yn y dref. Ond o’i chau fe’i arall gyfeiriwyd yn 1999 fel lle chwarae, Yr Hwylfan, lle i blant (ac oedolion) gael hwyl.
Cysegrwyd yr eglwys ym Mawrth 1864 ar gyfer gwasanaethau Saesneg gan ddarparu mwy o le nag yn eglwys ganoloesol y Santes Fair. Cynhelid gwasanaethau Cymraeg yn Llanbeblig, eglwys ar gyrion y dre ar y ffordd i Gaeathro a’r Waunfawr.
Y pensaer oedd Anthony Salvin, arbenigwr gothig o Lundain. Richard Parry o Borthaethwy fu’n gyfrifol am yr adeiladu.
Yn 1886 y codwyd y meindwr uchel. Cychwynnwyd codi arian yn 1887 am glwstwr o glychau ond yn 1893 bu llu o gwynion nad oedd y clychau wedi eu gosod. Wedyn neidiodd y ficer i’r adwy gan archebu’r clychau gan ei fod am gyfarch Tywysog a Thywysoges Cymru i’r dref o’r orsaf drên gyfagos i’r Eisteddfod Genedlaethol.
Ychwanegwyd yr organ yn 1877 a’i ail-adeiladu yn 1905 gyda 2,412 o beipiau, gan ei gwneud yn un o’r mwyaf yng Nghymru.
Caewyd yr eglwys yn 1982. Cadwyd rhai rhannau mewnol o’r adeilad fel y sgrin y gangell a wnaed o haearn bwrw gan Waith Haearn Brunswick yn 1928. Mae na beth gwybodaeth a gwrthrychau i’w ddarganfod yn y sefydliad.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Còd Post: LL55 1AR Gweld Map Lleoliad