Safle Gwaith Haearn Brunswick, Caernarfon

Safle Gwaith Haearn Brunswick, Caernarfon

Photo of DJ Williams at Brunswick ironworks

Roedd yr ardal hon unwaith yn gartref i Waith Haearn Brunswick o eiddo DJ Williams & Son.  Y cwmni yma wnaeth y gwaith metel ar gyfer arch y Milwr Anhysbys (The Unknown Warrior) yn Abaty Westminster.

Aeth DJ (David John) Williams i Lerpwl yn 14 oed a bu’n brentis i weithiwr haearn am bum mlynedd, ac yna bum mlynedd mewn “gwaith metel celf” ym Manceinion. Dechreuodd ei fusnes yn y Bontnewydd, gan symud yn ddiweddarach i safle y tu mewn i furiau tref Caernarfon (a feddiannir bellach gan swyddfeydd Cyngor Gwynedd). Roedd yn cael ei hysbysebu fel Gwaith Haearn Porth yr Aur, gan gyfeirio at y porth canoloesol gerllaw.

Newidiodd yr enw i Brunswick ym 1928 pan symudodd y cwmni yma, i Brunswick Buildings, lle gwerthwyd offer a chyflenwadau amaethyddol yn flaenorol. Mae'r llun uchaf (trwy garedigrwydd Meurig Williams) yn dangos DJ yn y gwaith haearn yma.

Yn 1909 enillodd DJ y wobr gyntaf am glwyd addurniadol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd y flwyddyn honno yn Llundain. Bu galw mawr am ei sgiliau. Ym 1915 gwnaeth ei gwmni reiliau ar gyfer Raleigh Walk Tŵr Llundain a 250 metr o reiliau yn Nhŷ’r Senedd (Gerddi Tŵr Victoria). Comisiynodd David Lloyd George DJ i wneud lampau ar gyfer ei gartref yn Llundain.

Yn 1910 gorfododd swyddogion carchar DJ, yn groes i'w ddymuniad, i wneud rhannau sgaffald metel ar gyfer dienyddio'r llofrudd William Murphy yng Nghaernarfon.

Yn 1920 roedd yr awdurdodau a oedd yn paratoi ar gyfer claddedigaeth seremonïol y Milwr Anhysbys yn anfodlon ag ansawdd y gwaith metel ar yr arch. Ar argymhelliad Lloyd George, galwyd DJ i Lundain ar 1 Tachwedd a rhoddwyd un o ddolenni’r arch iddo i’w hefelychu a’i gwella. Dychwelodd i Gaernarfon, gwneud handlen newydd a'i chyflwyno yn Llundain drannoeth.

Photo of Unknown Warrior's coffin

Yna bu'n rhaid i'w waith haearn wneud saith dolen arall a strapiau'r arch erbyn 7 Tachwedd. Gosodwyd gweddillion milwr anhysbys o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn yr arch orffenedig (llun isaf, trwy garedigrwydd Meurig Williams) yn Ffrainc, yna’i gludo ar long rhyfel ac ar drên i Lundain i’w gladdu yn seremonïol ar 11 Tachwedd 1920.

Yn 2001 symudodd y cwmni i Felin Peblig, yng ngorllewin Caernarfon. Mae’r rheolwr presennol Kate Jones, gor-wyres DJ, yn dilyn yn ôl traed mab y DJ, Harold a’i ŵyr Meurig.

Mae enghreifftiau eraill o waith y cwmni yn cynnwys:

  • giatiau Coleg Merton, Rhydychen;
  • y bwa mynedfa a'r lampau o flaen Gwesty'r Celtic Royal, Caernarfon;
  • y giatiau a’r monogram (a gynlluniwyd gan Syr Clough Williams-Ellis) ar fedd Lloyd George yn Llanystumdwy;
  • y ‘goron ddrain’ enfawr ar Gadeirlan Fetropolitan Lerpwl (Pabyddol);
  • pontydd newydd ar gyfer Rheilffordd Ucheldir Cymru rhwng Caernarfon a Phorthmadog;
  • sgrin gangell Eglwys Crist Caernarfon, sef Yr Hwylfan bellach;
  • giatiau newydd i neuadd ‘Feed My Lambs’ yng Nghaernarfon;
  • giatiau ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, i goffau Eisteddfod Genedlaethol 1947;
  • rheiliau mewn nifer o gestyll, gan gynnwys Caernarfon;
  • gratiau tân a heyrn cwn ar gyfer Castell Windsor a Phalas Hampton Court.

Gyda diolch i Meurig Williams a Pamela Smith, y mae eu llyfr ar waith haearn Brunswick (cyhoeddwyd 2020) ar gael gan y cwmni trwy e-bost (gweler dolen y wefan isod), pris £10

Cod post: LL55 2NA    Map

Gwefan Gwaith Haearn Brunswick

 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button