Cyn faes awyr RAF Llanbedr, ger Harlech

theme page link buttonCyn faes awyr RAF Llanbedr, ger Harlech

Yma mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi o amgylch perimedr maes awyr Llanbedr, a adeiladwyd gan yr Awyrlu Brenhinol ym 1940-41. Mae'r awyrlun, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y safle ym 1942, gydag awyrennau wrth ymyl y rhedfa sy'n arwain o'r chwith uchaf i'r gwaelod ar y dde.

Aerial photo of RAF Llanbedr in 1942

I ddechrau roedd RAF Llanbedr yn ganolfan ar gyfer awyrennau ymladd, gan gynnwys y Spitfire, a oedd yn patrolio Môr Iwerddon ac yn gwarchod confois llongau’r Cynghreiriaid.

Yn ddiweddarach yn y rhyfel, defnyddiodd unedau o Awyrlu Byddin yr Unol Daleithiau (USAAF) y maes awyr. Roedden nhw’n hedfan awyrennau ymladd Lightning yn bennaf ac yn ymarfer tanio awyr-at-awyr uwchben Bae Ceredigion – gan saethu at darged a dynnwyd y tu ôl i awyren arall. Cafodd un awyren Lightning ei orfodi i lanio ar frys ar y traeth ger Harlech. Mae ei holion bellach wedi’u diogelu’n ffurfiol.

Wrth i'r rhyfel barhau, lleihaodd yr angen am rym amddiffynnol yma a defnyddiwyd y maes awyr ar gyfer ymarfer arfau yn unig. Yn y cyfnod cyn yr ymosodiad ar Ffrainc yn 1944, anfonwyd peilotiaid i Lanbedr i fomio targedau ymarfer ar y môr ac ar feysydd tanio ym Mhorth Neigwl a Phenychain, ger Pwllheli.

Digwyddodd un o nifer o ddamweiniau angheuol yn ymwneud ag awyrennau Llanbedr ym Medi 1941 wrth i Avro Anson ddychweled at y maes awyr o Ynys Enlli. Syrthiodd i’r môr, a chollwyd y pum criw. Ym mis Hydref 1942 roedd tri o beilotiaid yn ymarfer hedfan Spitfires mewn ffurfiant pan, mewn cwmwl isel, daron nhw fynydd ger Tywyn. Bu farw'r tri.

Ar ôl y rhyfel, death maes awyr Llanbedr, oherwydd ei safle anghysbell, yn orsaf allanol o’r Sefydliad Awyrennau Brenhinol yn Farnbourough. Fe'i defnyddiwyd ar gyfer ymchwil a datblygu awyrennau drôn di-beilot. Gosodwyd rhedfa hirach, ar yr echel gogledd-de.

Parhaodd y maes awyr yn y rôl hon, dan amrywiol newidiadau enw, tan ddechrau'r 21ain ganrif. Ers hynny, mae llawer o beilotiaid preifat wedi hyfforddi yma ar gyfer eu trwyddedau neu i ddysgu sgiliau uwch, yn cynnwys rhai erobatig.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa 'Home Front', Llandudno

Cod post: LL45 2PX    Map



Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button