Paentiad JMW Turner o Bont Caerdydd, 1795
Paentiad JMW Turner o Bont Caerdydd, 1795
Os rydych wedi lawrlwytho'r dudalen hon trwy sganio'r codau QR, rydych yn sefyll yn agos at y fan lle creodd yr arlunydd Seisnig JMW Turner y braslun dyfrlliw hwn o Bont Caerdydd ym 1795.

Paentiad Turner o bont newydd Caerdydd a oedd yn cael ei hadeiladu ym 1795
© Tate, Llundain 2013
Mae'r manylion yn y ddelwedd yn darparu cofnod hynod ddiddorol o'r rhan hon o Gaerdydd cyn dyfodiad ffotograffiaeth. Un o'r newidiadau amlycaf yw nad oes pont dros y Taf mwyach i'r gogledd o'r fan hon. Cafodd yr un a frasluniodd Turner - a oedd yn dal i gael ei hadeiladu ar y pryd - ei difrodi gan yr afon ym 1827. Adeiladwyd y bont sydd bellach yn cludo Stryd y Castell dros y Taf yn is i lawr yr afon o safle'r un flaenorol ym 1859, ddegawd ar ôl i Isambard Kingdom Brunel ddargyfeirio’r afon i ddarparu safle addas ar gyfer yr hyn sydd bellach yn orsaf reilffordd Caerdydd Canolog.
Gellir gweld rhan o ategwaith ddwyreiniol pont 1795 ger y lanfa ym Mharc Bute (lle gallwch sganio cod QR HistoryPoints arall i gael mwy o wybodaeth). Mae paentiad Turner yn dangos nifer o adeiladau yn yr ardal sydd bellach yn Barc Bute, fel yr eglurir ar y dudalen hon yn ein taith o amgylch y parc.
Teithiodd Joseph Mallord William Turner yn Ne Cymru yn haf 1795, gan fraslunio llawer o dirweddau ac adfeilion mwyaf adnabyddus y rhanbarth. Yn ôl Oriel Tate, mae llawer o’r lluniadau a wnaeth ar y daith honno yn arddangos techneg pensil fwy coeth a chywrain nag yn ei waith blaenorol. Y bwriad oedd “i gofnodi cymaint o fanylion â phosibl”.
Aeth Turner ati hefyd i gofnodi rhai o'r newidiadau a oedd yn digwydd yn gyflym ym Mhrydain yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Yn y dyfrlliw o Bont Caerdydd, mae'r gweithwyr a'r bont anorffenedig yn symbol o gynnydd tra y cynrychiolir y gorffennol gan yr hen gychod a darnau o bren a chan y castell.
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |