Llongddrylliad yr Owen Morris 1907, ger Cricieth

 

Wrth iddyn nhw adael capel un Sul ym mis Rhagfyr 1907, edrychodd trigolion Cricieth allan i'r môr yn y cyffiniau hyn a’i dychrynwyd o weld llong hwylio yn cael ei chwythu tuag at y creigiau. 

Roedd y sgwner tri mast Owen Morris wedi gadael Porthmadog saith mis ynghynt gyda chargo o lechi i Hamburg. Yna croesodd yr Iwerydd gyda halen ar gyfer dwyrain Canada, lle cafodd ei lwytho â phenfras halenog ar gyfer Genoa, yr Eidal. Doedd dim cargo ar gael yn Genoa, felly dychwelodd y Capten David Roberts i Borthmadog mewn balast (gyda cherrig yn yr hold i sefydlogi'r llong). Cafwyd mordaith gyflym, er gwaethaf stormydd ym Mae Biscay, a chyrhaeddodd y sgwner Fae Tremadog mewn 21 diwrnod.

Sgubodd hyrddwynt i mewn o'r de orllewin pan oedd y llong hanner ffordd ar draws y bae. Roedd yr Owen Morris mewn sefyllfa beryglus o fod mewn balast ac yn cael ei chwythu tuag at y lan, yng llawn olwg poblogaeth Cricieth.

Painting of Owen Morris crew rescue

I lansio bad achub Cricieth oddi ar y traeth, drwy'r tonnau, bu'n rhaid i'r criw (yn y cwch) dynnu ar raff wedi ei glymu rhwng postyn tal ger gorsaf y bad achub a bwi wedi angori tua 100 metr oddi ar y traeth. Dim ond pan oedd y cwch yn glir o'r syrffio y gallent godi'r hwyl mawr. Collwyd mwy o amser oherwydd bu'n rhaid i'r cwch fynd at y gwynt gyntaf cyn y gallai droi a rhedeg i lawr y gwynt tuag at yr Owen Morris, oedd bellach y tu mewn i'r ewyn donnau trwm oddi ar draeth y Graig Ddu, Morfa Bychan, y bentir 3km i'r dwyrain o Gricieth. Roedd hwyliau y llong i gyd wedi chwythu i ffwrdd. Roedd un cebl angor yn llusgo yn ddiwerth, roedd y llall wedi torri. 

Aeth y bad achub heibio ochr yn ochr â'r llong ddwywaith. Neidiodd pob un o'r chwe aelod o'r criw i'r bad achub, funudau cyn i'w llong gael ei chwythu i'r ogof ar ochr ddwyreiniol y Graig Ddu. Cerddodd y dyn lleol Henry Hughes a'i deulu o Forfa Bychan (ar ochr bellaf y Graig Ddu) i weld eiliadau olaf y llong. Cofiodd yn ddiweddarach sut roedd cloch y llong wedi canu "mewn nodiadau melancholig" wrth i'r Owen Morris gael ei rhwygo’n ddarnau. 

Gallwch ddarllen mwy am yr Owen Morris ar ein tudalen am dafarn Tywysog Cymru, sy'n ymgorffori un o goed y llong. Mae'r darlun o'r achub gan yr artist a'r hanesydd lleol Robert Cadwalader. 

Gyda diolch i Robert Cadwalader, o Amgueddfa Forwrol Porthmadog, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Gweld Map Lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button