Porthladd Porth-gain a hopranau chwarel

’Slawer dydd cilfach dawel ar lan y môr oedd Porth-gain. Roedd yma dri bwthyn, cartrefi pysgotwyr oedden nhw, a dwy odyn galch. Deuai’r llanw uchel  hyd at y bwthyn cyntaf lle y mae’r Sloop Inn heddiw.

Photo of Portgain stone hoppers and crusherNewidiodd hyn i gyd yn 1851 pan geisiodd perchnogion chwarel lechi Abereiddi gerllaw,  ffordd amgenach o allforio llechi  yn hytrach na gwneud hynny o draeth Abereiddi. Yma roedd llongau yn gallu glanio ar lanw uchel, i’w  llwytho ar lanw isel ac ymadael wedyn ar y llanw uchel nesaf. Dim ond llongau bychain yn cludo 30 tunnell neu lai y gellid eu defnyddio ac roedd y tywydd a’r llanw yn peri bod y drefn hon yn beryglus. Chwalwyd un llong wrth iddi adael Abereiddi mewn storm yn 1838.

Yn 1851 adeiladwyd tramffordd  o chwarel Abereiddi i Borth-gain gan gwmni’r chwarel a dwy lanfa  gerrig at hynny y naill ochr a’r llall i fynedfa harbwr Porth-gain, er mwyn sicrhau rhagor o  gysgod. Naddwyd cei o’r clogwyn gorllewinol a gosod craen yno. Heddiw mae llwybr yr arfordir i gyfeiriad y gorllewin yn mynd ar hyd y cei ac i fyny’r grisiau heibio i Dŷ’r Peilot lle roedd gan y peilot swyddfa.

Datblygodd Porth-gain yn bentref diwydiannol prysur ac yn borthladd. Cloddiwyd llechi ac ithfaen ger Porth-gain a’u hallforio o’r harbwr. Cafodd cannoedd ar  filoedd o friciau eu hallforio yn ogystal, wedi i’r gwaith brics agor ym Mhorth-gain yn 1889.

Photo of steamship Porthgain in Porthgain harbourYn 1898 aethpwyd ati i ail-drefnu gan ddarparu lle yn yr harbwr ar gyfer llongau cargo mwy o faint. Treuliwyd chwe mlynedd yn gwneud y gwelliannau gan gynnwys adeiladu’r cei canolog ac estyn y lanfa orllewinol. Ar yr un adeg adeiladwyd hopranau uchel o friciau Porth-gain i ddal briwsion ithfaen i’w defnyddio ar heolydd macadam ar draws De Cymru a De-orllewin Lloegr. Cliciwch i weld ein tudalen am y rheilffordd a gludai’r ithfaen i’r harbwr.

Codwyd heolydd llyfn, da o ran eu draeniad, trwy osod haenau o gerrig o faint gwahanol 75mm (3modfedd) ar y gwaelod hyd at y llwch ar yr wyneb. Dyma lle y cludid y cerrig o’r chwarel at y peiriannau malu uwchben yr harbwr er mwyn eu chwalu’n 12 maint gwahanol. Yna disgynnai’r cerrig i’r hopranau cadw, pob un ohonyn nhw yn dal carreg o faint gwahanol.

Photo of Portgain stone hoppers and crusher with steamship leaving harbourMae twneli o dan yr hopranau llai. Dyma lle roedd tramiau yn cael eu llwytho’n uniongyrchol drwy agoriadau yn nho’r twnel. Yna byddai’r tramiau yn cael eu gwthio at y cei lle roedd craeniau ager yn arllwys y llwythi i grombil y llongau.

Trwy agoriad ym mlaen yr hopranau talaf, ac ar hyd llithren bren, roedd y cerrig yn cael eu llwytho i’r llongau cyfagos. Bryd hynny roedd gan y cwmni, United Stone Firms, ei longau ager ei hunan yn cynnwys SS Porthgain (llun canol), a ddrylliwyd yn 1913 yn Jack’s Sound ger Ynys Sgomer. 

Heddiw defnyddir yr harbwr gan bysgotwyr masnachol lleol ac ar gyfer gweithgareddau hamdden.  Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro piau’r harbwr ac yn gyfrifol am ei gynnal, felly hefyd yr hopranau a’r malwr. Bellach mae’r cyfan yn Heneb Restredig er eu hamddiffyn.   

Diolch i Philip Lees, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA62 5BN    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button