Cofeb Syr William Preece, Caernarfon

Cofeb Syr William Preece, Caernarfon

Mae plac ar gornel adeilad y swyddfa bost yn Y Maes (Sgwâr y Castell) yn coffau Syr William Preece, arloeswr ym maes technoleg cyfathrebu.

Ganed ef yng Nghaernarfon yn 1834 i Richard a Jane Preece. Roedd y teulu’n byw ym Mryn Helen ar Lôn Parc (y brif ffordd i’r de o’r dref) cyn symud i Lundain ym 1845.

Yn ei 20au cynnar bu'n beiriannydd yn yr Electric Telegraph Company a bu'n helpu Michael Faraday gydag arbrofion. Yn y 1860au roedd ei waith ar gyfer y London & South Western Railway yn cynnwys datblygu system ddiogelwch ar gyfer llinellau trac sengl a oedd yn atal mwy nag un trên rhag meddiannu rhan o'r trac ar yr un pryd. O 1870 ymlaen bu'n ymwneud â system delegraff y Swyddfa Bost Gyffredinol (GPO).

Daeth â ffôn i’r DU ym 1877, union flwyddyn ar ôl i Alexander Graham Bell roi patent ar y ddyfais yn UDA.

Ar ôl dod yn brif beiriannydd y GPO ym 1892, sylweddolodd fod gan y dyfeisiwr Eidalaidd Guglielmo Marconi syniadau mwy datblygedig na'i rai ei hun ar gyfer datblygu cyfathrebu diwifr. Roedd William eisoes wedi arbrofi gyda diwifr mewn gwahanol leoedd, gan gynnwys Trwyn Larnog, i’r gorllewin o Gaerdydd. Anogodd Marconi, gan roi cyfleusterau GPO ar gael i'r dyn iau.

Rhoddodd William ddarlithoedd, cyhoeddodd bapurau technegol a chafodd lawer o batentau. Bu'n llywydd sawl corff proffesiynol, gan gynnwys Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE).

Bu yn byw yn Penrhos, Caeathro, ger Caernarfon, am y ddwy flynedd olaf o'i oes. Bu farw yn 1913, gan adael saith o blant oedd yn oedolion. Roedd ei wraig Agnes wedi marw yn 1874. Roedd ei angladd yn Llanbeblig yn cyd-daro â gwasanaeth coffa yn San Steffan.

Ym 1914 cynhaliwyd gwledd gyhoeddus yng Nghaernarfon i anrhydeddu Marconi, a oedd wedi codi gorsaf darlledu diwifr fawr gerllaw. Talodd Marconi deyrnged i'r diweddar Syr William, yr oedd ei dechnoleg diwifr yn anaddas i'w defnyddio ar longau. Roedd hyn, meddai Marconi, oherwydd bod Syr William wedi dechrau ei arbrofion cyn i wyddoniaeth egluro sut roedd technoleg diwifr yn gweithio.

Gyda diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad

Cod post: LL55 2ND    Map

 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button